Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 24:23-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

23. Rhoddodd Arafna'r cwbl i'r brenin, a dweud wrtho, “Bydded yr ARGLWYDD dy Dduw yn fodlon arnat.”

24. Ond dywedodd y brenin wrth Arafna, “Na, rhaid imi ei brynu gennyt am bris. Nid wyf am aberthu i'r ARGLWYDD fy Nuw boethoffrwm di-gost.” Felly prynodd Dafydd y llawr dyrnu a'r ychen am hanner can sicl o arian;

25. a chododd yno allor i'r ARGLWYDD, ac aberthu poethoffrymau a heddoffrymau. Derbyniodd yr ARGLWYDD ymbil ar ran y wlad, ac ataliwyd y pla oddi ar Israel.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 24