19. Felly, ar air Gad, fe aeth Dafydd fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD.
20. Pan edrychodd Arafna a gweld y brenin a'i weision yn dod tuag ato, aeth allan a moesymgrymu i'r brenin â'i wyneb i'r llawr.
21. Ac meddai Arafna, “Pam y daeth f'arglwydd frenin at ei was?” Atebodd Dafydd, “I brynu gennyt y llawr dyrnu, i godi allor i'r ARGLWYDD er mwyn atal y pla sydd ar y bobl.”
22. Yna dywedodd Arafna wrth Ddafydd, “Cymered f'arglwydd frenin ef ac offrymu'r hyn a fyn; edrych, dyma'r ychen ar gyfer y poethoffrwm, a'r sled ddyrnu ac iau'r ychen yn danwydd.”
23. Rhoddodd Arafna'r cwbl i'r brenin, a dweud wrtho, “Bydded yr ARGLWYDD dy Dduw yn fodlon arnat.”
24. Ond dywedodd y brenin wrth Arafna, “Na, rhaid imi ei brynu gennyt am bris. Nid wyf am aberthu i'r ARGLWYDD fy Nuw boethoffrwm di-gost.” Felly prynodd Dafydd y llawr dyrnu a'r ychen am hanner can sicl o arian;
25. a chododd yno allor i'r ARGLWYDD, ac aberthu poethoffrymau a heddoffrymau. Derbyniodd yr ARGLWYDD ymbil ar ran y wlad, ac ataliwyd y pla oddi ar Israel.