8. Dyma enwau'r gwroniaid oedd gan Ddafydd: Isbaal yr Hachmoniad oedd pen y Tri; chwifiodd ei waywffon mewn buddugoliaeth uwchben wyth gant o laddedigion ar un tro.
9. Y nesaf ato ef ymysg y Tri Gwron oedd Eleasar fab Dodo, fab Ahohi; yr oedd ef gyda Dafydd yn herio'r Philistiaid pan ddaethant ynghyd i ryfel, a'r Israeliaid yn cilio o'u blaenau.
10. Safodd ei dir ac ymladd â'r Philistiaid nes i'w law ddiffygio a glynu yn ei gleddyf. Rhoes yr ARGLWYDD waredigaeth fawr y diwrnod hwnnw, a daeth y bobl yn ôl at Eleasar, ond i ysbeilio'r cyrff yn unig.
11. Y nesaf at hwnnw oedd Samma fab Age yr Harariad. Pan ddaeth y Philistiaid ynghyd yn Lehi, lle'r oedd rhandir yn llawn ffacbys, ffodd y bobl rhag y Philistiaid;
12. ond safodd Samma ei dir yng nghanol y llain a'i hachub, a lladd y Philistiaid; a rhoes yr ARGLWYDD waredigaeth fawr.
13. Aeth tri o'r Deg ar Hugain i lawr at Ddafydd i ogof Adulam, a chyrraedd adeg y cynhaeaf, pan oedd mintai o Philistiaid wedi gwersyllu yn nyffryn Reffaim.
14. Yr oedd Dafydd ar y pryd yn yr amddiffynfa, a garsiwn y Philistiaid ym Methlehem.
15. Cododd blys ar Ddafydd ac meddai, “O na chawn ddiod o ddŵr o bydew Bethlehem sydd ger y porth!”
16. Ar hynny rhuthrodd y Tri Gwron trwy wersyll y Philistiaid, codi dŵr o bydew Bethlehem gerllaw'r porth, a'i gludo'n ôl at Ddafydd. Eto ni fynnai ef ei yfed, a thywalltodd ef yn offrwm i'r ARGLWYDD,
17. a dweud, “Na ato'r ARGLWYDD i mi wneud hyn! A allaf fi yfed gwaed gwŷr a fentrodd eu heinioes?” A gwrthododd ei yfed. Dyma wrhydri y Tri Gwron.