7. gwaeddais ar yr ARGLWYDD yn fy nghyfyngder,ac ar fy Nuw iddo fy nghynorthwyo;clywodd fy llef o'i deml,a daeth fy ngwaedd i'w glustiau.
8. “Crynodd y ddaear a gwegian,ysgydwodd sylfeini'r nefoedd,a siglo oherwydd ei ddicter ef.
9. Cododd mwg o'i ffroenau,yr oedd tân yn ysu o'i enau,a marwor yn cynnau o'i gwmpas.
10. Fe agorodd y ffurfafen a disgyn,ac yr oedd tywyllwch dan ei draed.
11. Marchogodd ar gerwb a hedfan,gwibiodd ar adenydd y gwynt.
12. Gosododd o'i amgylch dywyllwch yn babell,a chymylau duon yn orchudd.
13. O'r disgleirdeb o'i flaentasgodd cerrig tân.
14. Taranodd yr ARGLWYDD o'r nefoedd,a llefarodd llais y Goruchaf.
15. Bwriodd allan ei saethau yma ac acw,saethodd fellt a gwneud iddynt atsain.
16. Daeth gwaelodion y môr i'r golwg,a dinoethwyd sylfeini'r byd,oherwydd dy gerydd di, O ARGLWYDD,a chwythiad anadl dy ffroenau.
17. “Ymestynnodd o'r uchelder a'm cymryd,tynnodd fi allan o'r dyfroedd cryfion.