Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 22:25-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

25. Talodd yr ARGLWYDD imi yn ôl fy nghyfiawnder,ac yn ôl glendid fy nwylo yn ei olwg.

26. Yr wyt yn ffyddlon i'r ffyddlon,yn ddifeius i'r sawl sydd ddifeius,

27. ac yn bur i'r rhai pur;ond i'r cyfeiliornus yr wyt yn wyrgam.

28. Oherwydd yr wyt yn gwaredu'r rhai gostyngedig,ac yn darostwng y beilchion.

29. Ti sy'n goleuo fy llusern, ARGLWYDD;fy Nuw sy'n troi fy nhywyllwch yn ddisglair.

30. Oherwydd trwot ti y gallaf oresgyn llu;trwy fy Nuw gallaf neidio dros fur.

31. Y Duw hwn, y mae'n berffaith ei ffordd,ac y mae gair yr ARGLWYDD wedi ei brofi'n bur;y mae ef yn darian i bawb sy'n llochesu ynddo.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 22