Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 15:4-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Ac ychwanegai Absalom, “O na fyddwn i yn cael fy ngosod yn farnwr dros y wlad! Yna byddai pob un â chŵyn neu achos ganddo yn dod ataf fi, a byddwn i yn sicrhau cyfiawnder iddo.”

5. Pan fyddai unrhyw un yn agosáu i ymgrymu iddo, byddai ef yn estyn ei law, yn gafael ynddo ac yn ei gusanu.

6. Fel hyn y byddai Absalom yn ymddwyn tuag at bob Israeliad oedd yn dod at y brenin am ddedfryd, a denodd fryd pobl Israel.

7. Wedi pedair blynedd dywedodd Absalom wrth y brenin, “Gad imi fynd i Hebron a thalu'r adduned a wneuthum i'r ARGLWYDD;

8. oherwydd pan oeddwn yn byw yn Gesur yn Syria, gwnaeth dy was yr adduned hon, ‘Os byth y daw'r ARGLWYDD â mi yn ôl i Jerwsalem, fe addolaf yr ARGLWYDD.’ ”

9. Dywedodd y brenin, “Dos mewn heddwch!” Aeth yntau i ffwrdd i Hebron.

10. Yr oedd Absalom wedi anfon negeswyr drwy holl lwythau Israel a dweud wrthynt, “Pan glywch sain yr utgorn, cyhoeddwch, ‘Y mae Absalom wedi dod yn frenin yn Hebron.’ ”

11. Aeth deucant o wŷr gydag Absalom o Jerwsalem; yr oeddent wedi eu gwahodd, ac yn mynd yn gwbl ddiniwed, heb wybod dim byd.

12. Anfonodd Absalom hefyd am Ahitoffel y Giloniad, cynghorydd Dafydd, i ddod o'i dref, Gilo, i fod gydag ef wrth offrymu'r ebyrth. Yr oedd y cynllwyn yn cynyddu, a'r bobl oedd o blaid Absalom yn dal i amlhau.

13. Daeth rhywun a dweud wrth Ddafydd fod bryd pobl Israel ar Absalom,

14. a dywedodd Dafydd wrth ei holl weision oedd gydag ef yn Jerwsalem, “Codwch, inni gael ffoi; onid e, ni fydd modd inni ddianc rhag Absalom; brysiwch oddi yma rhag iddo ef ymosod yn sydyn arnom a pheri niwed inni, a tharo'r ddinas â'r cleddyf.”

15. Dywedodd gweision y brenin wrtho, “Beth bynnag yw penderfyniad ein harglwydd frenin, y mae dy weision yn barod.”

16. Yna ymadawodd y brenin, a'i deulu i gyd yn ei ganlyn, gan adael deg o'r gordderchwragedd i ofalu am y tŷ.

17. Wedi i'r brenin a'r holl fintai oedd yn ei ganlyn fynd allan, safodd ger y tŷ pellaf.

18. A safodd ei weision gerllaw iddo, tra oedd y Cerethiaid a'r Pelethiaid i gyd, a'r holl Gethiaid, sef y chwe chant o wŷr oedd wedi dod o Gath i'w ganlyn, yn croesi gerbron y brenin.

19. Gofynnodd y brenin i Itai y Gethiad, “Pam yr wyt ti'n dod gyda ni? Dos yn ôl ac aros gyda'r brenin newydd, oherwydd dieithryn wyt ti, ac alltud oddi cartref.

20. Ddoe y daethost ti; a wnaf fi iti grwydro heddiw gyda ni ar daith, a minnau heb wybod i ble'r wyf yn mynd? Dos yn ôl, a dos â'th gymrodyr gyda thi; a bydded i'r ARGLWYDD ddangos iti drugaredd a ffyddlondeb.”

21. Atebodd Itai a dweud wrth y brenin, “Cyn wired â bod yr ARGLWYDD yn fyw, a thithau hefyd, f'arglwydd frenin, ple bynnag yr â f'arglwydd frenin, i farw neu i fyw, yno'n sicr y bydd dy was hefyd.”

22. Yna dywedodd Dafydd wrth Itai, “Dos ymlaen, ynteu.” Felly aeth Itai y Gethiad yn ei flaen, a'i holl bobl a'r holl blant oedd gydag ef.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 15