12. Anfonodd Absalom hefyd am Ahitoffel y Giloniad, cynghorydd Dafydd, i ddod o'i dref, Gilo, i fod gydag ef wrth offrymu'r ebyrth. Yr oedd y cynllwyn yn cynyddu, a'r bobl oedd o blaid Absalom yn dal i amlhau.
13. Daeth rhywun a dweud wrth Ddafydd fod bryd pobl Israel ar Absalom,
14. a dywedodd Dafydd wrth ei holl weision oedd gydag ef yn Jerwsalem, “Codwch, inni gael ffoi; onid e, ni fydd modd inni ddianc rhag Absalom; brysiwch oddi yma rhag iddo ef ymosod yn sydyn arnom a pheri niwed inni, a tharo'r ddinas â'r cleddyf.”
15. Dywedodd gweision y brenin wrtho, “Beth bynnag yw penderfyniad ein harglwydd frenin, y mae dy weision yn barod.”
16. Yna ymadawodd y brenin, a'i deulu i gyd yn ei ganlyn, gan adael deg o'r gordderchwragedd i ofalu am y tŷ.
17. Wedi i'r brenin a'r holl fintai oedd yn ei ganlyn fynd allan, safodd ger y tŷ pellaf.
18. A safodd ei weision gerllaw iddo, tra oedd y Cerethiaid a'r Pelethiaid i gyd, a'r holl Gethiaid, sef y chwe chant o wŷr oedd wedi dod o Gath i'w ganlyn, yn croesi gerbron y brenin.
19. Gofynnodd y brenin i Itai y Gethiad, “Pam yr wyt ti'n dod gyda ni? Dos yn ôl ac aros gyda'r brenin newydd, oherwydd dieithryn wyt ti, ac alltud oddi cartref.
20. Ddoe y daethost ti; a wnaf fi iti grwydro heddiw gyda ni ar daith, a minnau heb wybod i ble'r wyf yn mynd? Dos yn ôl, a dos â'th gymrodyr gyda thi; a bydded i'r ARGLWYDD ddangos iti drugaredd a ffyddlondeb.”
21. Atebodd Itai a dweud wrth y brenin, “Cyn wired â bod yr ARGLWYDD yn fyw, a thithau hefyd, f'arglwydd frenin, ple bynnag yr â f'arglwydd frenin, i farw neu i fyw, yno'n sicr y bydd dy was hefyd.”
22. Yna dywedodd Dafydd wrth Itai, “Dos ymlaen, ynteu.” Felly aeth Itai y Gethiad yn ei flaen, a'i holl bobl a'r holl blant oedd gydag ef.