Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 15:1-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Wedi hyn darparodd Absalom iddo'i hun gerbyd a meirch, a hanner cant o ddynion i redeg o'i flaen.

2. Codai'n fore, a sefyll ar ochr y ffordd at borth y ddinas, a phan fyddai unrhyw un yn dod ag achos at y brenin am ddedfryd, byddai Absalom yn ei alw ato ac yn holi, “O ba dref yr wyt ti?” A byddai hwnnw'n ateb, “O un o lwythau Israel y mae dy was.”

3. Yna byddai Absalom yn dweud, “Edrych, y mae dy achos yn un da a chryf, ond ni chei wrandawiad gan y brenin.”

4. Ac ychwanegai Absalom, “O na fyddwn i yn cael fy ngosod yn farnwr dros y wlad! Yna byddai pob un â chŵyn neu achos ganddo yn dod ataf fi, a byddwn i yn sicrhau cyfiawnder iddo.”

5. Pan fyddai unrhyw un yn agosáu i ymgrymu iddo, byddai ef yn estyn ei law, yn gafael ynddo ac yn ei gusanu.

6. Fel hyn y byddai Absalom yn ymddwyn tuag at bob Israeliad oedd yn dod at y brenin am ddedfryd, a denodd fryd pobl Israel.

7. Wedi pedair blynedd dywedodd Absalom wrth y brenin, “Gad imi fynd i Hebron a thalu'r adduned a wneuthum i'r ARGLWYDD;

8. oherwydd pan oeddwn yn byw yn Gesur yn Syria, gwnaeth dy was yr adduned hon, ‘Os byth y daw'r ARGLWYDD â mi yn ôl i Jerwsalem, fe addolaf yr ARGLWYDD.’ ”

9. Dywedodd y brenin, “Dos mewn heddwch!” Aeth yntau i ffwrdd i Hebron.

10. Yr oedd Absalom wedi anfon negeswyr drwy holl lwythau Israel a dweud wrthynt, “Pan glywch sain yr utgorn, cyhoeddwch, ‘Y mae Absalom wedi dod yn frenin yn Hebron.’ ”

11. Aeth deucant o wŷr gydag Absalom o Jerwsalem; yr oeddent wedi eu gwahodd, ac yn mynd yn gwbl ddiniwed, heb wybod dim byd.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 15