Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 14:22-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

22. Syrthiodd Joab ar ei wyneb i'r llawr, a moesymgrymodd a bendithio'r brenin, a dweud, “Fe ŵyr dy was heddiw imi ennill ffafr yn dy olwg, f'arglwydd frenin, am iti wneud dymuniad dy was.”

23. Aeth Joab ar unwaith i Gesur, a dod ag Absalom yn ôl i Jerwsalem.

24. Ond dywedodd y brenin, “Aed i'w dŷ ei hun; ni chaiff weld fy wyneb i.” Felly aeth Absalom i'w dŷ ac ni welodd wyneb y brenin.

25. Trwy Israel gyfan nid oedd neb y gellid ei ganmol am ei harddwch fel Absalom; nid oedd mefl arno o wadn ei droed hyd ei gorun.

26. Byddai'n eillio'i ben ar ddiwedd pob blwyddyn am fod ei wallt mor drwm, a phan bwysai'r gwallt oedd wedi ei eillio oddi ar ei ben, pwysai ddau can sicl yn ôl safon y brenin.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 14