Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 11:19-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

19. Gorchmynnodd i'r negesydd, “Wedi iti orffen dweud holl hanes y frwydr wrth y brenin,

20. yna os bydd y brenin yn llidio ac yn dweud wrthyt: ‘Pam yr aethoch mor agos at y ddinas i ryfela? Onid oeddech yn gwybod y byddent yn saethu oddi ar y mur?

21. Pwy laddodd Abimelech fab Jerwbbeseth? Onid gwraig yn gollwng maen melin arno oddi ar y mur yn Thebes, ac yntau'n marw? Pam yr aethoch mor agos at y mur?’—yna dywed tithau, ‘Y mae dy was Ureia yr Hethiad hefyd wedi marw’.”

22. Aeth y negesydd, a dod ac adrodd wrth Ddafydd y cwbl yr anfonodd Joab ef i'w ddweud.

23. Yna dywedodd y negesydd wrth Ddafydd, “Pan ymwrolodd y milwyr yn ein herbyn, a dod allan atom i'r maes agored, aethom ninnau yn eu herbyn hwy hyd at fynedfa'r porth,

24. a saethodd y saethwyr at dy weision oddi ar y mur, a bu farw rhai o weision y brenin, ac y mae dy was Ureia yr Hethiad hefyd wedi marw.”

25. Yna dywedodd Dafydd wrth y negesydd, “Dywed fel hyn wrth Joab, ‘Paid â gofidio am y peth hwn, oherwydd y mae'r cleddyf yn difa weithiau yma, weithiau acw; brwydra'n galetach yn erbyn y ddinas a distrywia hi’. Calonoga ef fel hyn.”

26. Pan glywodd gwraig Ureia fod ei gŵr wedi marw, galarodd am ei phriod.

27. Ac wedi i'r cyfnod galaru fynd heibio, anfonodd Dafydd a'i chymryd i'w dŷ, a daeth hi'n wraig iddo ef, a geni mab iddo. Ond yr oedd yr hyn a wnaeth Dafydd yn ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 11