Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 11:1-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Tua throad y flwyddyn, yr adeg y byddai'r brenhinoedd yn mynd i ryfela, fe anfonodd Dafydd Joab, gyda'i weision ei hun a byddin Israel gyfan, a distrywiasant yr Ammoniaid, a gosod Rabba dan warchae. Ond fe arhosodd Dafydd yn Jerwsalem.

2. Un prynhawn yr oedd Dafydd wedi codi o'i wely ac yn cerdded ar do'r palas. Oddi yno gwelodd wraig yn ymolchi, a hithau'n un brydferth iawn.

3. Anfonodd Dafydd i holi pwy oedd y wraig, a chael yr ateb, “Onid Bathseba ferch Eliam, gwraig Ureia yr Hethiad, yw hi?”

4. Anfonodd Dafydd negeswyr i'w dwyn ato, ac wedi iddi ddod, gorweddodd yntau gyda hi. Yr oedd hi wedi ei glanhau o'i haflendid. Yna dychwelodd hi adref.

5. Beichiogodd y wraig, ac anfonodd i hysbysu Dafydd ei bod yn feichiog.

6. Anfonodd Dafydd at Joab, “Anfon ataf Ureia yr Hethiad.”

7. Pan gyrhaeddodd Ureia, holodd Dafydd hynt Joab a hynt y fyddin a'r rhyfel.

8. Yna dywedodd Dafydd wrth Ureia, “Dos i lawr adref a golchi dy draed.” Pan adawodd Ureia dŷ'r brenin anfonwyd rhodd o fwyd y brenin ar ei ôl.

9. Ond gorweddodd Ureia yn nrws y palas gyda gweision ei feistr, ac nid aeth i'w dŷ ei hun.

10. Pan fynegwyd wrth Ddafydd nad oedd Ureia wedi mynd adref, dywedodd Dafydd wrth Ureia, “Onid o daith y daethost ti? Pam nad aethost adref?”

11. Atebodd Ureia, “Y mae'r arch, ac Israel a Jwda hefyd, yn trigo mewn pebyll, ac y mae f'arglwydd Joab a gweision f'arglwydd yn gwersylla yn yr awyr agored. A wyf fi am fynd adref i fwyta ac yfed, ac i orwedd gyda'm gwraig? Cyn wired â bod yr ARGLWYDD yn fyw, a thithau hefyd, ni wnaf y fath beth!”

12. Dywedodd Dafydd wrth Ureia, “Aros di yma heddiw eto, ac anfonaf di'n ôl yfory.” Felly arhosodd Ureia yn Jerwsalem y diwrnod hwnnw.

13. A thrannoeth gwahoddodd Dafydd ef i fwyta ac yfed gydag ef, a gwnaeth ef yn feddw. Pan aeth allan gyda'r nos, gorweddodd ar ei wely gyda gweision ei feistr, ac nid aeth adref.

14. Felly yn y bore ysgrifennodd Dafydd lythyr at Joab a'i anfon gydag Ureia.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 11