Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 10:2-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. Dywedodd Dafydd, “Gwnaf garedigrwydd â Hanun fab Nahas, fel y gwnaeth ei dad â mi.” Felly anfonodd neges ato gyda'i weision, i'w gysuro am ei dad. Ond pan ddaeth gweision Dafydd i wlad yr Ammoniaid,

3. dywedodd tywysogion yr Ammoniaid wrth eu harglwydd Hanun, “A wyt ti'n tybio mai anrhydeddu dy dad y mae Dafydd wrth anfon cysurwyr atat? Onid er mwyn chwilio'r ddinas a'i hysbïo a'i goresgyn yr anfonodd Dafydd ei weision atat?”

4. Yna cymerodd Hanun weision Dafydd, ac eillio hanner barf pob un ohonynt, a thorri gwisg pob un yn ei hanner hyd at ei gluniau, a'u hanfon ymaith.

5. Pan ddywedwyd hyn wrth Ddafydd, anfonodd rai i'w cyfarfod, am fod cywilydd mawr ar y dynion, a dweud wrthynt am aros yn Jericho a pheidio â dychwelyd nes y byddai eu barfau wedi tyfu.

6. Pan welsant eu bod yn ffiaidd gan Ddafydd, anfonodd yr Ammoniaid a chyflogi ugain mil o wŷr traed oddi wrth y Syriaid yn Beth-rehob a Soba, a hefyd mil o wŷr oddi wrth frenin Maacha a deuddeng mil o wŷr Tob.

7. Pan glywodd Dafydd, anfonodd Joab allan gyda'r holl fyddin a'r milwyr.

8. Daeth yr Ammoniaid allan a ffurfio rhengoedd ar gyfer y frwydr ger porth y ddinas, gyda Syriaid o Soba a Rehob, a gwŷr Tob a Maacha ar eu pennau eu hunain mewn tir agored.

9. Gwelodd Joab y byddai'n gorfod ymladd o'r tu blaen ac o'r tu ôl; felly dewisodd wŷr dethol o fyddin Israel, a'u trefnu'n rhengoedd i wynebu'r Syriaid.

10. Gosododd weddill y fyddin dan awdurdod ei frawd Abisai, a'u trefnu'n rhengoedd i wynebu'r Ammoniaid.

11. A dywedodd, “Os bydd y Syriaid yn drech na mi, tyrd di i'm cynorthwyo; ond os bydd yr Ammoniaid yn drech na thi, dof finnau i'th gynorthwyo di.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 10