Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 10:15-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

15. Pan welodd y Syriaid iddynt golli'r dydd o flaen Israel, daethant at ei gilydd eto,

16. ac anfonodd Hadadeser i gyrchu'r Syriaid o Tu-hwnt-i'r-Ewffrates hefyd. Daethant ynghyd i Helam, gyda Sobach, pencapten Hadadeser, yn eu harwain.

17. Pan ddywedwyd wrth Ddafydd, fe gasglodd ynghyd Israel gyfan, croesodd yr Iorddonen, a dod i Helam. Trefnodd y Syriaid eu rhengoedd yn erbyn Dafydd a rhyfela yn ei erbyn.

18. Ffodd y Syriaid o flaen Israel, a lladdodd Dafydd ohonynt saith gant o wŷr cerbyd a deugain mil o farchogion;

19. a hefyd fe drawodd Sobach, y pencapten, a bu yntau farw yno. Pan welodd yr holl frenhinoedd oedd dan awdurdod Hadadeser iddynt golli'r dydd o flaen Israel, gwnaethant heddwch ag Israel a phlygu i'w hawdurdod. Wedi hyn ofnai'r Syriaid roi rhagor o gymorth i'r Ammoniaid.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 10