Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 10:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Wedi hyn bu farw brenin yr Ammoniaid, a daeth Hanun ei fab yn frenin yn ei le.

2. Dywedodd Dafydd, “Gwnaf garedigrwydd â Hanun fab Nahas, fel y gwnaeth ei dad â mi.” Felly anfonodd neges ato gyda'i weision, i'w gysuro am ei dad. Ond pan ddaeth gweision Dafydd i wlad yr Ammoniaid,

3. dywedodd tywysogion yr Ammoniaid wrth eu harglwydd Hanun, “A wyt ti'n tybio mai anrhydeddu dy dad y mae Dafydd wrth anfon cysurwyr atat? Onid er mwyn chwilio'r ddinas a'i hysbïo a'i goresgyn yr anfonodd Dafydd ei weision atat?”

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 10