16. Yr oedd Dafydd wedi dweud wrtho, “Bydded dy waed ar dy ben di dy hun; tystiodd dy enau dy hun yn dy erbyn pan ddywedaist, ‘Myfi a laddodd eneiniog yr ARGLWYDD’.”
17. Canodd Dafydd yr alarnad hon am Saul a'i fab Jonathan,
18. a gorchymyn ei dysgu i'r Jwdeaid. Y mae wedi ei hysgrifennu yn Llyfr Jasar:
19. “O ardderchowgrwydd Israel, a drywanwyd ar dy uchelfannau!O fel y cwympodd y cedyrn!
20. “Peidiwch â'i adrodd yn Gath,na'i gyhoeddi ar strydoedd Ascalon,rhag i ferched y Philistiaid lawenhau,rhag i ferched y dienwaededig orfoleddu.
21. “O fynyddoedd Gilboa,na foed gwlith na glaw arnoch,chwi feysydd marwolaeth.Canys yno yr halogwyd tarian y cedyrn,tarian Saul heb ei hiro ag olew.
22. “Oddi wrth waed lladdedigion,oddi wrth fraster rhai cedyrn,ni throdd bwa Jonathan erioed yn ôl;a chleddyf Saul ni ddychwelai'n wag.
23. “Saul a Jonathan, yr anwylaf a'r hyfrytaf o wŷr,yn eu bywyd ac yn eu hangau ni wahanwyd hwy;cyflymach nag eryrod oeddent, a chryfach na llewod.
24. “O ferched Israel, wylwch am Saul,a fyddai'n eich gwisgo'n foethus mewn ysgarlad,ac yn rhoi gemau aur ar eich gwisg.
25. “O fel y cwympodd y cedyrn yng nghanol y frwydr!lladdwyd Jonathan ar dy uchelfannau.
26. “Gofidus wyf amdanat, fy mrawd Jonathan;buost yn annwyl iawn gennyf;yr oedd dy gariad tuag ataf yn rhyfeddol,y tu hwnt i gariad gwragedd.