Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 1:1-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Ar ôl marwolaeth Saul dychwelodd Dafydd o daro'r Amaleciaid, ac aros ddeuddydd yn Siclag.

2. Ar y trydydd dydd cyrhaeddodd dyn o wersyll Saul a'i ddillad wedi eu rhwygo a phridd ar ei ben. Daeth at Ddafydd, syrthiodd o'i flaen a moesymgrymu.

3. Gofynnodd Dafydd iddo, “O ble y daethost?” Atebodd yntau, “Wedi dianc o wersyll Israel yr wyf.”

4. Dywedodd Dafydd wrtho, “Dywed wrthyf sut y bu pethau.” Adroddodd yntau fel y bu i'r bobl ffoi o'r frwydr, a bod llawer ohonynt wedi syrthio a marw, a bod Saul a'i fab Jonathan hefyd wedi marw.

5. Gofynnodd Dafydd i'r llanc oedd yn adrodd yr hanes wrtho, “Sut y gwyddost ti fod Saul a'i fab Jonathan wedi marw?”

6. Ac meddai'r llanc oedd yn dweud yr hanes wrtho, “Yr oeddwn yn digwydd bod ar Fynydd Gilboa, a dyna lle'r oedd Saul yn pwyso ar ei waywffon, a'r cerbydau a'r marchogion yn cau amdano.

7. Wrth iddo droi fe'm gwelodd i, a galw arnaf. ‘Dyma fi,’ meddwn innau.

8. Gofynnodd i mi, ‘Pwy wyt ti?’ Atebais innau, ‘Amaleciad.’

9. Yna dywedodd wrthyf, ‘Tyrd yma a lladd fi, oherwydd y mae gwendid wedi cydio ynof, er bod bywyd yn dal ynof.’

10. Felly euthum ato a'i ladd, oherwydd gwyddwn na fyddai fyw wedi iddo gwympo. Cymerais y goron oedd ar ei ben a'r freichled oedd am ei fraich, a deuthum â hwy yma at f'arglwydd.”

11. Gafaelodd Dafydd yn ei wisg a'i rhwygo, a gwnaeth yr holl ddynion oedd gydag ef yr un modd;

12. a buont yn galaru, yn wylo ac yn ymprydio hyd yr hwyr dros Saul a'i fab Jonathan, a hefyd dros bobl yr ARGLWYDD a thÅ· Israel, am eu bod wedi syrthio drwy'r cleddyf.

13. Holodd Dafydd y llanc a ddaeth â'r newydd, “Un o ble wyt ti?” Atebodd yntau, “Mab i Amaleciad a ddaeth yma i fyw wyf fi.”

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 1