Hen Destament

Testament Newydd

2 Macabeaid 7:6-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. “Y mae'r Arglwydd ein Duw yn gwylio drosom ac yn sicr yn tosturio wrthym, yn union fel y mynegodd Moses i wynebau'r bobl yn y gân sy'n tystio yn eu herbyn: ‘A bydd ef yn tosturio wrth ei weision’.”

7. Wedi ymadawiad y cyntaf yn y dull hwn, daethpwyd â'r ail ymlaen, i wneud cyff gwawd ohono. Rhwygwyd croen ei ben i ffwrdd gyda'i wallt, a gofynnwyd iddo, “A wnei di fwyta cyn inni fwrw ein llid ar dy gorff, bob un aelod ohono?”

8. Atebodd ef yn ei famiaith, “Na wnaf.” O ganlyniad dioddefodd yntau yn ei dro yr un artaith â'r cyntaf.

9. Ac â'i anadl olaf meddai, “Yr wyt ti, y dihiryn, yn ein rhyddhau o'r bywyd presennol hwn, ond bydd Brenin y cyfanfyd yn ein hatgyfodi i fywyd newydd tragwyddol am inni farw dros ei gyfreithiau ef.”

10. Ar ôl hwn, aethpwyd ati i gam-drin y trydydd. Ar eu cais estynnodd ei dafod ar unwaith, a dal ei ddwylo o'i flaen yn eofn,

11. gan lefaru geiriau teilwng o'i dras: “Gan Dduw'r nef y cefais i'r rhain, ac er mwyn ei gyfreithiau ef yr wyf yn eu dibrisio, a chanddo ef y disgwyliaf eu derbyn yn ôl.”

12. Syfrdanwyd y brenin a'i gymdeithion gan ysbryd y llanc a'i ddifaterwch ynglŷn â'r poenau.

13. Wedi i hwnnw ymadael â'r fuchedd hon, fe boenydiwyd ac arteithiwyd y pedwerydd yn yr un modd.

14. Pan ddaeth yn agos at y diwedd meddai, “Nid oes dim rhagorach nag ymadael â'r fuchedd hon trwy ddwylo dynol, a disgwyl am ein hatgyfodi gan Dduw, gan obeithio yn ei addewidion; ond i ti ni bydd atgyfodiad i fywyd.”

15. Yn nesaf daethpwyd â'r pumed ymlaen a'i boenydio.

16. Edrychodd ef ar y brenin ac meddai, “Am fod gennyt awdurdod ymhlith dynion yr wyt yn gwneud fel y mynni, er mai meidrolyn wyt. Ond paid â meddwl fod Duw wedi gadael ein cenedl yn amddifad.

17. Dal di ati, a chei weld mawredd ei rym yn yr arteithiau a ddaw arnat ti ac ar dy ddisgynyddion.”

18. Ar ôl hwn daethpwyd â'r chweched ymlaen, a phan oedd ar farw meddai, “Paid â gwneud camsyniad ofer: nyni ein hunain, a'n pechodau yn erbyn ein Duw, yw achos y dioddef hwn a ddaeth arnom yn ei holl arswyd;

19. a phaid â meddwl y cei di fynd heb dy gosbi am dy gais i ymladd yn erbyn Duw.”

20. Ond tra rhyfeddol a theilwng o goffadwriaeth fendigedig oedd y fam. Er iddi weld colli ei saith mab yn ystod un diwrnod, fe ddaliodd y cwbl ag ysbryd dewr am fod ei gobaith yn yr Arglwydd.

21. Bu wrthi'n calonogi pob un ohonynt yn eu mamiaith, ac â phenderfyniad diysgog cwbl deilwng o'i thras, ac â'i meddwl benyw wedi ei gyffroi gan wrhydri tanbaid, dywedai wrthynt,

Darllenwch bennod gyflawn 2 Macabeaid 7