Hen Destament

Testament Newydd

2 Macabeaid 2:1-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. “Y mae'n cofnodion hanesyddol yn dangos mai'r proffwyd Jeremeia a orchmynnodd i'r alltudion gymryd y tân, fel y disgrifiwyd eisoes,

2. a hefyd fod y proffwyd, ar ôl cyflwyno'r gyfraith iddynt, wedi gorchymyn i'r alltudion beidio ag anghofio gorchmynion yr Arglwydd, na mynd ar gyfeiliorn yn eu meddyliau wrth syllu ar ddelwau o aur ac arian a'r gwisgoedd gwych amdanynt;

3. ac â geiriau eraill cyffelyb fe'u hanogodd i beidio â throi'r gyfraith allan o'u calonnau.

4. Yr oedd y ddogfen hefyd yn adrodd bod y proffwyd o achos oracl dwyfol wedi gorchymyn fod y babell a'r arch i'w ddilyn ef; a'i fod wedi mynd allan i'r mynydd y safai Moses ar ei ben pan welodd yr etifeddiaeth a addawyd gan Dduw.

5. Wedi cyrraedd yno darganfu Jeremeia ogof gyfannedd, a dygodd y babell a'r arch ac allor yr arogldarth i mewn iddi a chau'r fynedfa.

6. Daeth rhai o'i gymdeithion yno ar ei ôl i nodi'r ffordd, ond ni lwyddasant i'w darganfod.

7. Pan ddaeth Jeremeia i wybod am hyn, fe'u ceryddodd, gan ddweud, ‘Anhysbys fydd y man hyd at yr amser y cynnull Duw ei bobl ynghyd a thrugarhau wrthynt;

8. y pryd hwnnw daw'r Arglwydd â'r pethau hyn i'r golwg unwaith eto, ac fe welir gogoniant yr Arglwydd a'r cwmwl, fel yr amlygwyd ef yn amser Moses, a hefyd pan weddodd Solomon am i'r deml gael ei chysegru'n deilwng.’ ”

9. Adroddwyd hefyd i Solomon, fel un a chanddo ddoethineb, offrymu aberth i ddathlu cysegru a chwblhau'r deml.

10. Yn union fel y gweddïodd Moses yntau ar yr Arglwydd, ac y disgynnodd tân o'r nef a llwyrlosgi'r aberthau yn ulw, felly hefyd y disgynnodd y tân a llwyrlosgi'r poethoffrymau wedi i Solomon weddio.

11. Yr oedd Moses wedi dweud, “Am na fwytawyd ef, llwyr losgwyd yr offrwm dros bechod.”

12. Yn yr un modd hefyd dathlodd Solomon yr wyth diwrnod.

13. Ceir yr un hanes hefyd yng nghofnodion ac atgofion Nehemeia, ynghyd ag adroddiad am y modd y sefydlodd lyfrgell trwy gasglu ynghyd y llyfrau ynglŷn â'r brenhinoedd, llyfrau'r proffwydi, gweithiau Dafydd, a llythyrau'r brenhinoedd ynghylch rhoddion cysegredig.

14. Yn yr un modd y mae Jwdas wedi casglu ynghyd yr holl lyfrau a wasgarwyd o achos y rhyfel a ddaeth arnom, ac y maent yn ein meddiant ni;

15. felly, os oes arnoch eu hangen, anfonwch rywrai i'w cyrchu.

16. “Yr ydym yn ysgrifennu atoch am ein bod yn bwriadu dathlu Gŵyl y Buredigaeth; da o beth, gan hynny, fydd i chwi gadw ei dyddiau.

17. Y Duw a achubodd ei holl bobl ac a roes y frenhiniaeth a'r offeiriadaeth a'r cysegriad yn etifeddiaeth i bawb,

Darllenwch bennod gyflawn 2 Macabeaid 2