Oherwydd fel y mae yfed gwin ar ei ben ei hun yn atgas, ac yfed dŵr yr un modd hefyd, tra mae gwin yn gymysg â dŵr yn felys ac yn rhoi mwynhad hyfryd, felly hefyd y mae amrywiaeth grefftus yn yr ymadrodd yn hyfrydwch i glust y darllenydd. Ac ar hynny fe ddibennaf.