2 Macabeaid 12:45 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)
ond os oedd â'i olwg ar y wobr ddigymar a gedwir ar gyfer y rhai sy'n huno mewn duwioldeb, yr oedd ei fwriad yn sanctaidd a duwiol; a dyna pam yr offrymodd aberth puredigaeth dros y meirw fel y caent eu rhyddhau o'u pechod.