Wedi troi'r rhain yn eu hôl a'u difa, arweiniodd ei fyddin yn erbyn Effron, tref gaerog lle trigai Lysias ynghyd â lluoedd o bobl o bob hil. Ond o flaen y muriau yr oedd amddiffynwyr glew, dynion ifainc cryfion, a thu mewn yr oedd cyflenwad da o beiriannau rhyfel a thaflegrau.