Flynyddoedd lawer wedyn, pan benderfynodd Duw hynny, anfonwyd Nehemeia'n ôl gan frenin Persia, a gyrrodd yntau ddisgynyddion yr offeiriaid oedd wedi cuddio'r tân i'w gyrchu'n ôl. Ac wedi iddynt hwy egluro inni nad tân y cawsant hyd iddo, ond hylif trwchus, gorchmynnodd ef iddynt godi peth ohono a'i ddwyn ato.