Hen Destament

Testament Newydd

2 Macabeaid 1:10-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. “Pobl Jerwsalem a Jwdea, y senedd a Jwdas, at Aristobwlus, athro'r Brenin Ptolemeus ac aelod o linach yr offeiriaid eneiniog, ac at Iddewon yr Aifft, cyfarchion ac iechyd i chwi.

11. Mawr yw'r peryglon yr achubwyd ni rhagddynt gan Dduw, a mawr yw ein diolch iddo, fel byddin y mae ei rhengoedd yn barod i wrthsefyll y brenin.

12. Ef a fwriodd allan y fyddin oedd yn barod i ymosod ar y ddinas sanctaidd.

13. Oherwydd pan aeth eu cadfridog i Persia gyda byddin a oedd i bob golwg yn anorchfygol, fe'u torrwyd yn ddarnau yn nheml Nanaia trwy weithred ystrywgar offeiriaid Nanaia.

14. Daeth Antiochus gyda'i Gyfeillion i'r deml i briodi'r dduwies, er mwyn cymryd ei chyfoeth enfawr fel gwaddol.

15. Dangosodd offeiriaid teml Nanaia y trysor iddo, ac aeth ef gydag ychydig o ddilynwyr i mewn trwy'r mur oedd o amgylch y fangre. Cyn gynted ag y daeth Antiochus i mewn i'r cysegr, clodd yr offeiriaid y dorau

16. ac agor drws cudd yn un o baneli'r nenfwd, a bwrw arnynt gawod o gerrig. Wedi llorio'r cadfridog fel un a drawyd gan fellten, aethant ati i'w darnio a thorri eu pennau i ffwrdd a'u lluchio i'r bobl y tu allan.

17. Bendigedig fyddo ein Duw ym mhob peth, yr hwn a draddododd yr halogwyr i farwolaeth!

18. Gan ei bod yn fwriad gennym ddathlu puro'r deml ar y pumed dydd ar hugain o fis Cislef, barnasom mai priodol fyddai eich hysbysu, er mwyn i chwithau ddathlu Gŵyl y Pebyll a chofio'r tân a losgodd pan offrymwyd aberthau gan Nehemeia, adeiladydd y deml a'r allor hefyd.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Macabeaid 1