Hen Destament

Testament Newydd

2 Esdras 5:32-50 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

32. “Gwrando arnaf fi,” meddai, “ac fe'th ddysgaf; dal sylw, ac fe ddywedaf fwy wrthyt.”

33. “Llefara, f'arglwydd,” atebais innau.Meddai'r angel wrthyf: “Yr wyt yn drallodus iawn dy feddwl ynglŷn ag Israel. A yw dy gariad di tuag at Israel yn fwy na chariad Gwneuthurwr Israel?”

34. “Nac ydyw, f'arglwydd,” atebais innau, “ond o wir ofid y lleferais i; oherwydd yr wyf yn cael fy mhoenydio o'm mewn bob awr o'r dydd, wrth imi geisio deall ffordd y Goruchaf a dirnad rhyw ran o'i farnedigaethau ef.”

35. “Ni elli wneud hynny,” meddai wrthyf. “Pam, f'arglwydd?” atebais innau. “I ba beth, felly, y'm ganwyd? Pam na throes croth fy mam yn fedd imi? Yna ni chawswn weld poen Jacob a blinder plant Israel.”

36. Meddai ef: “Cyfrif imi y rheini sydd hyd yma heb eu geni, casgl ynghyd imi ddiferion gwasgaredig y glaw, a phâr i'r blodau a wywodd lasu unwaith eto;

37. agor imi yr ystafelloedd caeëdig, a dwg allan y gwyntoedd sydd wedi eu cloi o'u mewn, neu dangos imi lun llais; yna fe ddangosaf i ti y rheswm am y caledi hwn yr wyt yn gofyn am gael ei ddeall.”

38. “Ond, f'arglwydd feistr,” atebais i, “pwy a all fod â gwybodaeth felly ganddo, ond yr Un nad yw ei drigfa ymhlith dynion?

39. Ond myfi, nid oes imi ddoethineb; sut felly y gallaf siarad am y pethau hyn y gofynnaist i mi amdanynt?”

40. Meddai wrthyf: “Yn yr un modd ag yr wyt yn analluog i gyflawni unrhyw un o'r pethau a grybwyllwyd, felly hefyd ni elli ddarganfod fy marnedigaethau i, nac amcan y cariad a addewais i'm pobl.”

41. “Ond atolwg, f'arglwydd,” meddwn i, “yr wyt ti'n rhoi blaenoriaeth i'r rhai a fydd yn fyw yn y diwedd. Beth a wna'r rhai a fu byw o'n blaen ni, neu nyni ein hunain, neu'r rheini a ddaw ar ein hôl ni?”

42. Dywedodd yntau: “Cyffelybaf fy marnedigaeth i gylch crwn; ni bydd y rhai olaf yn rhy hwyr, na'r rhai cynharaf yn rhy fuan.”

43. Atebais innau fel hyn: “Onid oedd yn bosibl i ti lunio pawb—pobl y gorffennol, y presennol, a'r dyfodol—yn union yr un pryd? Byddit felly'n gallu cyhoeddi dy farnedigaeth gymaint yn gynt.”

44. Atebodd ef: “Ni all y greadigaeth brysuro mwy na'r Creawdwr, na'r byd gynnal yr un pryd bawb o'r rhai a grewyd i fyw ynddo.”

45. Meddwn innau: “Sut felly y dywedaist wrthyf y bywhei yn wir bob creadur a grewyd gennyt, a hynny'n union yr un pryd? Os ydynt hwy oll, yn y dyfodol, i fod yn fyw yr un pryd, ac os yw'r greadigaeth i'w cynnal, yna gallai'r greadigaeth wneud hynny yn awr, a'u dal oll yn bresennol gyda'i gilydd yr un pryd.”

46. Meddai yntau wrthyf: “Gofyn gwestiwn i groth gwraig, fel hyn: ‘Os wyt ti i esgor ar ddeg o blant, pam mai ar bob un yn ei dro y gwnei hynny?’ Gofyn iddi, gan hynny, esgor ar y deg yr un pryd.”

47. Meddwn innau: “Ni all wneud hynny; yn ei dro y digwydd pob esgor.”

48. “Felly hefyd,” atebodd ef, “i bob un yn ei dro y rhoddais i groth y ddaear i'r rheini a feichiogwyd ynddi.

49. Ni all plentyn roi genedigaeth, nac ychwaith wraig sydd bellach wedi mynd yn hen; yn yr un modd yr wyf finnau wedi trefnu ar gyfer y byd a grewyd gennyf.”

50. Yna gofynnais ymhellach fel hyn: “Gan dy fod wedi agor y ffordd imi yn awr, a gaf fi barhau i siarad â thi? A yw ein mam ni, y soniaist wrthyf amdani, yn dal yn ifanc, ynteu a yw hi eisoes yn heneiddio?”

Darllenwch bennod gyflawn 2 Esdras 5