Hen Destament

Testament Newydd

2 Esdras 3:6-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Dygaist ef i'r baradwys yr oedd dy ddeheulaw wedi ei phlannu cyn i'r ddaear erioed ymddangos;

7. gosodaist arno gadw un gorchymyn o'r eiddot; ond anwybyddu hwnnw a wnaeth ef, ac ar unwaith pennaist farwolaeth iddo ef a'i hiliogaeth. Ohono ef y ganwyd cenhedloedd a llwythau, pobloedd a theuluoedd, dirifedi.

8. Ond byw yn ôl ei hewyllys ei hun a wnaeth pob cenedl, gan ymddwyn yn annuwiol ac yn ddirmygus ger dy fron di; eto ni rwystraist hwy.

9. Ond yna, yn ei amser, fe ddygaist y dilyw ar ben trigolion y ddaear, a'u difetha.

10. Yr un oedd eu tynged hwy oll: fel y daeth marwolaeth ar Adda, felly hefyd y daeth y dilyw arnynt hwy.

11. Er hynny, arbedaist un ohonynt, Noa, ynghyd â'i deulu, a'r holl rai cyfiawn oedd yn ddisgynyddion iddo.

12. “Pan ddechreuodd trigolion y ddaear gynyddu, amlhawyd plant a phobloedd a chenhedloedd lawer, ac unwaith eto dechreusant wneud annuwioldeb, mwy hyd yn oed na'r cenedlaethau o'u blaen.

13. Felly, a hwythau yn gwneud drygioni ger dy fron, dewisaist i ti dy hun un ohonynt, o'r enw Abraham;

14. ceraist ef, ac iddo ef yn unig, yn ddirgel, liw nos, y datguddiaist ddiwedd yr amserau.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Esdras 3