Hen Destament

Testament Newydd

2 Esdras 3:26-36 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

26. gan ymddwyn ym mhob dim fel Adda a'i holl ddisgynyddion ef; oherwydd yr oedd ganddynt hwythau hefyd galon ddrwg.

27. Felly traddodaist dy ddinas dy hun i ddwylo dy elynion.

28. “Yna dywedais wrthyf fy hun: ‘Tybed a yw trigolion Babilon yn ymddwyn yn well? Ai dyna pam y daethant i arglwyddiaethu ar Seion?’

29. Ond pan ddeuthum yma, gwelais weithredoedd annuwiol y dyrfa aneirif sydd yma; am ddeng mlynedd ar hugain bellach yr wyf wedi gweld eu drwgweithredwyr lu drosof fy hun.

30. Ymollyngodd fy nghalon, oherwydd gwelais fel yr wyt yn cydymddŵyn â hwy yn eu pechod, ac fel yr arbedaist y rhai annuwiol eu ffyrdd; difethaist dy bobl dy hun, ond cedwaist dy elynion yn ddiogel.

31. Nid wyt ychwaith wedi rhoi unrhyw arwydd i neb ynglŷn â'r modd y dylid dwyn y drefn hon i ben. Tybed a yw gweithredoedd Babilon yn well na rhai Seion?

32. A fu i unrhyw genedl arall heblaw Israel dy adnabod di? Pa lwythau sydd wedi ymddiried, fel llwythau Jacob, yn dy gyfamodau di?

33. Ond nid yw eu gwobr hwy wedi dod i'r amlwg, na'u llafur wedi dwyn ffrwyth. Yr wyf wedi teithio llawer ymhlith y cenhedloedd, a'u gweld uwchben eu digon, er eu bod yn diystyru dy ddeddfau di.

34. Yn awr, felly, pwysa mewn clorian ein drygioni ni a drygioni trigolion y byd; yna ceir gweld ar ba ochr y bydd y pwysau'n troi'r dafol.

35. A fu amser erioed pan na phechodd trigolion y ddaear yn dy olwg di? Pa genedl sydd wedi cadw dy ddeddfau fel Israel?

36. Y mae'n wir y cei hyd i unigolion sydd wedi cadw dy ddeddfau, ond ni chei genhedloedd a wnaeth hynny.”

Darllenwch bennod gyflawn 2 Esdras 3