Hen Destament

Testament Newydd

2 Esdras 3:12-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. “Pan ddechreuodd trigolion y ddaear gynyddu, amlhawyd plant a phobloedd a chenhedloedd lawer, ac unwaith eto dechreusant wneud annuwioldeb, mwy hyd yn oed na'r cenedlaethau o'u blaen.

13. Felly, a hwythau yn gwneud drygioni ger dy fron, dewisaist i ti dy hun un ohonynt, o'r enw Abraham;

14. ceraist ef, ac iddo ef yn unig, yn ddirgel, liw nos, y datguddiaist ddiwedd yr amserau.

15. Gwnaethost gyfamod tragwyddol ag ef, gan addo iddo na fyddit byth yn ymadael â'i had ef; rhoddaist Isaac iddo, ac i Isaac rhoddaist Jacob ac Esau.

16. Neilltuaist Jacob i ti dy hun, ond bwrw Esau ymaith; ac aeth Jacob yn dyrfa fawr.

17. “Pan oeddit yn arwain ei ddisgynyddion allan o'r Aifft, fe'u dygaist at Fynydd Sinai;

18. yno gostyngaist yr wybren, ysgydwaist y ddaear, cynhyrfaist y byd, peraist i'r dyfnderoedd grynu, terfysgaist y cyfanfyd.

19. Daeth dy ogoniant drwy bedwar porth—tân, daeargryn, gwynt a rhew—er mwyn iti roi'r gyfraith i had Jacob a'r ddeddf i blant Israel.

20. Eto ni thynnaist eu calon ddrwg oddi wrthynt, er mwyn i'th gyfraith ddwyn ffrwyth ynddynt.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Esdras 3