Hen Destament

Testament Newydd

2 Esdras 3:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yn y ddegfed flwyddyn ar hugain ar ôl cwymp y ddinas, yr oeddwn i ym Mabilon—myfi, Salathiel, a wyf hefyd Esra. Gorweddwn yn aflonydd ar fy ngwely, a'm meddyliau yn llethu fy nghalon,

2. am i mi weld anghyfanedd-dra Seion, ond digonedd y rhai oedd yn trigo ym Mabilon.

3. Cynhyrfwyd fy ysbryd yn fawr iawn, a dechreuais lefaru wrth y Goruchaf eiriau yn mynegi fy mhryder.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Esdras 3