Hen Destament

Testament Newydd

2 Esdras 3:1-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yn y ddegfed flwyddyn ar hugain ar ôl cwymp y ddinas, yr oeddwn i ym Mabilon—myfi, Salathiel, a wyf hefyd Esra. Gorweddwn yn aflonydd ar fy ngwely, a'm meddyliau yn llethu fy nghalon,

2. am i mi weld anghyfanedd-dra Seion, ond digonedd y rhai oedd yn trigo ym Mabilon.

3. Cynhyrfwyd fy ysbryd yn fawr iawn, a dechreuais lefaru wrth y Goruchaf eiriau yn mynegi fy mhryder.

4. “Arglwydd Iôr,” meddwn, “onid ti a lefarodd yn y dechreuad, pan luniaist y ddaear, a hynny ar dy ben dy hun? Rhoddaist orchymyn i'r llwch,

5. a rhoddodd hwnnw i ti Adda yn gorff difywyd. Ond gwaith dy ddwylo di oedd y corff hwnnw hefyd; anedlaist i mewn iddo anadl einioes, a daeth ef yn greadur byw ger dy fron.

6. Dygaist ef i'r baradwys yr oedd dy ddeheulaw wedi ei phlannu cyn i'r ddaear erioed ymddangos;

7. gosodaist arno gadw un gorchymyn o'r eiddot; ond anwybyddu hwnnw a wnaeth ef, ac ar unwaith pennaist farwolaeth iddo ef a'i hiliogaeth. Ohono ef y ganwyd cenhedloedd a llwythau, pobloedd a theuluoedd, dirifedi.

8. Ond byw yn ôl ei hewyllys ei hun a wnaeth pob cenedl, gan ymddwyn yn annuwiol ac yn ddirmygus ger dy fron di; eto ni rwystraist hwy.

9. Ond yna, yn ei amser, fe ddygaist y dilyw ar ben trigolion y ddaear, a'u difetha.

10. Yr un oedd eu tynged hwy oll: fel y daeth marwolaeth ar Adda, felly hefyd y daeth y dilyw arnynt hwy.

11. Er hynny, arbedaist un ohonynt, Noa, ynghyd â'i deulu, a'r holl rai cyfiawn oedd yn ddisgynyddion iddo.

12. “Pan ddechreuodd trigolion y ddaear gynyddu, amlhawyd plant a phobloedd a chenhedloedd lawer, ac unwaith eto dechreusant wneud annuwioldeb, mwy hyd yn oed na'r cenedlaethau o'u blaen.

13. Felly, a hwythau yn gwneud drygioni ger dy fron, dewisaist i ti dy hun un ohonynt, o'r enw Abraham;

Darllenwch bennod gyflawn 2 Esdras 3