Hen Destament

Testament Newydd

2 Esdras 14:35-48 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

35. Oherwydd bydd y farn yn dilyn marwolaeth; byddwn ninnau'n dod yn fyw drachefn, ac yna daw enwau'r rhai cyfiawn yn eglur, a gweithredoedd yr annuwiol yn amlwg.

36. Ond peidied neb â dod ataf yn awr, na'm ceisio am y deugain diwrnod nesaf.”

37. Yna cymerais y pum dyn, fel y gorchmynnwyd imi, ac aethom allan i'r maes ac aros yno.

38. A'r dydd canlynol, dyma lais yn galw arnaf a dweud, “Esra, agor dy enau ac yf yr hyn yr wyf yn ei roi i ti i'w yfed.”

39. Felly agorais fy ngenau, a dyma estyn imi gwpan yn llawn o rywbeth tebyg i ddŵr, ond bod ei liw fel lliw tân.

40. Cymerais ef ac yfed, a chyn gynted ag y gwneuthum hynny dyma fy meddwl yn dylifo â dealltwriaeth, a doethineb yn mynd ar gynnydd o'm mewn; oherwydd ni chollodd cyneddfau fy ysbryd afael ar y cof.

41. Felly agorwyd fy ngenau, ac nis caewyd wedyn.

42. Hefyd rhoddodd y Goruchaf ddeall i'r pum dyn, ac ysgrifenasant hwy yn eu trefn y pethau a ddywedwyd, gan ddefnyddio llythrennau heb fod yn wybyddus iddynt; yno y buont am y deugain diwrnod, yn ysgrifennu trwy'r dydd,

43. ac yn bwyta bara gyda'r nos. A minnau, yr oeddwn yn llefaru y dydd, ac nid oeddwn yn ddistaw y nos.

44. Yn y deugain diwrnod fe ysgrifennwyd naw deg a phedwar o lyfrau.

45. A phan gwblhawyd y deugain diwrnod, siaradodd y Goruchaf â mi fel hyn: “Gwna'n hysbys y llyfrau cyntaf a ysgrifennaist, a gad i'r rhai teilwng a'r annheilwng fel ei gilydd eu darllen,

46. ond cadw'n ôl y saith deg olaf, i'w cyflwyno i'r doethion ymhlith dy bobl.

47. Oherwydd ynddynt hwy y mae ffrwd deall, ffynnon doethineb, ac afon gwybodaeth.”

48. A gwneuthum felly.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Esdras 14