Hen Destament

Testament Newydd

2 Esdras 14:32-47 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

32. Am ei fod ef yn farnwr cyfiawn, ymhen amser fe dynnodd yn ôl oddi wrthych yr hyn yr oedd wedi ei roi.

33. Ac yn awr yr ydych chwi yma, yn alltud, ac y mae'ch tylwyth ymhellach i ffwrdd na chwi

34. Felly, os cadwch reolaeth ar eich deall a disgyblu eich meddwl, fe'ch cedwir yn ddiogel yn ystod eich bywyd, ac fe dderbyniwch drugaredd ar ôl marw.

35. Oherwydd bydd y farn yn dilyn marwolaeth; byddwn ninnau'n dod yn fyw drachefn, ac yna daw enwau'r rhai cyfiawn yn eglur, a gweithredoedd yr annuwiol yn amlwg.

36. Ond peidied neb â dod ataf yn awr, na'm ceisio am y deugain diwrnod nesaf.”

37. Yna cymerais y pum dyn, fel y gorchmynnwyd imi, ac aethom allan i'r maes ac aros yno.

38. A'r dydd canlynol, dyma lais yn galw arnaf a dweud, “Esra, agor dy enau ac yf yr hyn yr wyf yn ei roi i ti i'w yfed.”

39. Felly agorais fy ngenau, a dyma estyn imi gwpan yn llawn o rywbeth tebyg i ddŵr, ond bod ei liw fel lliw tân.

40. Cymerais ef ac yfed, a chyn gynted ag y gwneuthum hynny dyma fy meddwl yn dylifo â dealltwriaeth, a doethineb yn mynd ar gynnydd o'm mewn; oherwydd ni chollodd cyneddfau fy ysbryd afael ar y cof.

41. Felly agorwyd fy ngenau, ac nis caewyd wedyn.

42. Hefyd rhoddodd y Goruchaf ddeall i'r pum dyn, ac ysgrifenasant hwy yn eu trefn y pethau a ddywedwyd, gan ddefnyddio llythrennau heb fod yn wybyddus iddynt; yno y buont am y deugain diwrnod, yn ysgrifennu trwy'r dydd,

43. ac yn bwyta bara gyda'r nos. A minnau, yr oeddwn yn llefaru y dydd, ac nid oeddwn yn ddistaw y nos.

44. Yn y deugain diwrnod fe ysgrifennwyd naw deg a phedwar o lyfrau.

45. A phan gwblhawyd y deugain diwrnod, siaradodd y Goruchaf â mi fel hyn: “Gwna'n hysbys y llyfrau cyntaf a ysgrifennaist, a gad i'r rhai teilwng a'r annheilwng fel ei gilydd eu darllen,

46. ond cadw'n ôl y saith deg olaf, i'w cyflwyno i'r doethion ymhlith dy bobl.

47. Oherwydd ynddynt hwy y mae ffrwd deall, ffynnon doethineb, ac afon gwybodaeth.”

Darllenwch bennod gyflawn 2 Esdras 14