Hen Destament

Testament Newydd

2 Esdras 12:26-38 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

26. Ynglŷn â'r pen mwyaf a welaist yn diflannu, y mae hynny'n arwyddo y bydd farw un ohonynt yn ei wely, ond mewn arteithiau.

27. Caiff y ddau sy'n aros eu lladd â'r cleddyf;

28. oherwydd difethir un ohonynt gan gleddyf y llall, ond yn y diwedd bydd hwnnw hefyd yn syrthio gan gleddyf.

29. Ynglŷn â'r ddwy is-aden a welaist yn mynd drosodd at y pen ar y llaw dde,

30. dyma'r esboniad: hwy yw'r rhai a gadwodd y Goruchaf hyd y diwedd a bennodd; a thlawd a therfysglyd, fel y gwelaist, fu eu teyrnasiad.

31. A'r llew a welaist yn dod o'r coed, wedi ei ddeffro ac yn rhuo, ac a glywaist yn siarad â'r eryr a'i geryddu am ei weithredoedd anghyfiawn a'i holl eiriau,

32. hwnnw yw'r Eneiniog y mae'r Goruchaf wedi ei gadw hyd y diwedd. Bydd ef yn eu ceryddu hwy am eu hannuwioldeb a'u hanghyfiawnderau, ac yn gosod ger eu bron eu gweithredoedd sarhaus.

33. Oherwydd yn gyntaf bydd yn eu dwyn yn fyw i farn, ac yna, ar ôl eu profi'n euog, yn eu dinistrio.

34. Ond fe ddengys drugaredd tuag at weddill fy mhobl, pawb o fewn terfynau fy nhir a gadwyd yn ddiogel, a'u rhyddhau; bydd yn peri iddynt orfoleddu, hyd nes i'r diwedd ddod, sef y dydd barn y soniais wrthyt amdano ar y dechrau.

35. Dyna'r freuddwyd a welaist, a dyna'i dehongliad.

36. Ti'n unig, fodd bynnag, oedd yn deilwng i wybod y gyfrinach hon o eiddo'r Goruchaf.

37. Gan hynny, ysgrifenna mewn llyfr yr holl bethau hyn a welaist, a'u gosod mewn lle dirgel,

38. a dysg hwy i'r doethion hynny o blith dy bobl y gwyddost fod eu calonnau yn gallu derbyn y cyfrinachau hyn a'u cadw'n ddiogel.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Esdras 12