Hen Destament

Testament Newydd

2 Esdras 12:21-35 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

21. pan fydd cyfnod canol y deyrnas yn nesáu, ond cedwir pedwar hyd at yr amser pan fydd cyfnod olaf y deyrnas yn nesáu, a chedwir dau hyd y diwedd ei hun.

22. Ynglŷn â'r tri phen a welaist yn gorffwys yn llonydd,

23. dyma'r esboniad: ym mlynyddoedd olaf y deyrnas, fe gyfyd y Goruchaf dri brenin i ddwyn adferiad mawr iddi, a byddant hwy yn arglwyddiaethu ar y ddaear

24. a'i thrigolion â mwy o ormes na'r holl rai a fu o'u blaen. Felly fe'u gelwir hwy yn bennau'r eryr,

25. am mai hwy yw'r rhai a fydd yn gweithio'i weithredoedd annuwiol ef i'w pen, ac yn rhoi terfyn llwyr arno.

26. Ynglŷn â'r pen mwyaf a welaist yn diflannu, y mae hynny'n arwyddo y bydd farw un ohonynt yn ei wely, ond mewn arteithiau.

27. Caiff y ddau sy'n aros eu lladd â'r cleddyf;

28. oherwydd difethir un ohonynt gan gleddyf y llall, ond yn y diwedd bydd hwnnw hefyd yn syrthio gan gleddyf.

29. Ynglŷn â'r ddwy is-aden a welaist yn mynd drosodd at y pen ar y llaw dde,

30. dyma'r esboniad: hwy yw'r rhai a gadwodd y Goruchaf hyd y diwedd a bennodd; a thlawd a therfysglyd, fel y gwelaist, fu eu teyrnasiad.

31. A'r llew a welaist yn dod o'r coed, wedi ei ddeffro ac yn rhuo, ac a glywaist yn siarad â'r eryr a'i geryddu am ei weithredoedd anghyfiawn a'i holl eiriau,

32. hwnnw yw'r Eneiniog y mae'r Goruchaf wedi ei gadw hyd y diwedd. Bydd ef yn eu ceryddu hwy am eu hannuwioldeb a'u hanghyfiawnderau, ac yn gosod ger eu bron eu gweithredoedd sarhaus.

33. Oherwydd yn gyntaf bydd yn eu dwyn yn fyw i farn, ac yna, ar ôl eu profi'n euog, yn eu dinistrio.

34. Ond fe ddengys drugaredd tuag at weddill fy mhobl, pawb o fewn terfynau fy nhir a gadwyd yn ddiogel, a'u rhyddhau; bydd yn peri iddynt orfoleddu, hyd nes i'r diwedd ddod, sef y dydd barn y soniais wrthyt amdano ar y dechrau.

35. Dyna'r freuddwyd a welaist, a dyna'i dehongliad.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Esdras 12