Hen Destament

Testament Newydd

2 Esdras 12:11-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. Yr eryr a welaist yn esgyn o'r môr yw'r bedwaredd deyrnas a ymddangosodd mewn gweledigaeth i'th frawd Daniel.

12. Ond ni roddwyd iddo ef y dehongliad yr wyf yn ei roi i ti yn awr, neu a rois iti eisoes.

13. Ystyria, y mae'r dyddiau'n dod pan gyfyd ar y ddaear deyrnas a fydd yn fwy arswydlon na'r holl deyrnasoedd a fu o'i blaen.

14. Bydd deuddeg brenin yn olynol yn llywodraethu ar y deyrnas honno,

15. ac o'r deuddeg, yr ail i ddod i'r deyrnas a fydd yn teyrnasu hwyaf.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Esdras 12