Hen Destament

Testament Newydd

2 Esdras 11:34-46 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

34. Ond yr oedd dau ben yn aros, a buont hwythau'n teyrnasu dros y ddaear a'i thrigolion;

35. ac wrth imi edrych, dyma'r pen ar y dde yn llyncu'r un ar y chwith.

36. Yna clywais lais yn dweud wrthyf, “Edrych o'th flaen, ac ystyria'r hyn yr wyt yn ei weld.”

37. Edrychais, a dyma rywbeth fel llew, wedi ei darfu o'r coed, yn rhuo; ac fe'i clywais yn llefaru wrth yr eryr â llais dyn, a dweud:

38. “Gwrando, rwyf am siarad â thi.

39. Y mae'r Goruchaf yn dweud wrthyt: ‘Onid ti yw'r unig un sy'n aros o'r pedwar bwystfil y perais iddynt deyrnasu ar fy myd, er mwyn dirwyn fy amserau i ben drwyddynt?’

40. Ti yw'r pedwerydd i ddod, ac yr wyt wedi trechu'r holl fwystfilod a aeth o'r blaen, gan arglwyddiaethu ar y byd â braw mawr ac ar yr holl ddaear â'r gormes llymaf. Cyhyd o amser y buost fyw yn y byd trwy dwyll!

41. Ac nid â gwirionedd y bernaist y ddaear.

42. Buost yn gorthrymu'r addfwyn ac yn cam-drin yr heddychol; caseaist y rhai a ddywedai'r gwir, a charu celwyddwyr; dinistriaist gartrefi'r ffyniannus, a bwrw i lawr furiau rhai na wnaethant unrhyw ddrwg iti.

43. Ond y mae dy draha wedi codi i fyny at y Goruchaf, a'th falchder at yr Hollalluog.

44. Y mae'r Goruchaf wedi edrych yn ôl ar ei amserau; y maent wedi dod i ben, ac y mae ei oesoedd ef wedi eu cyflawni.

45. Felly rhaid i ti, yr eryr, ddiflannu o'r golwg yn llwyr, ynghyd â'th adenydd ofnadwy, a'th is-adenydd ysgeler, dy bennau atgas, dy ewinedd creulon, a'th holl gorff diwerth.

46. Felly, wedi ei gwaredu oddi wrth dy drais di, caiff yr holl ddaear adfywiad ac adnewyddiad; yna gall obeithio am farn ac am drugaredd yr Un a'i creodd.”

Darllenwch bennod gyflawn 2 Esdras 11