Hen Destament

Testament Newydd

2 Esdras 11:24-43 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

24. Wrth imi edrych, dyma ddwy o'r chwech aden fach yn ymddidoli oddi wrth y lleill ac yn aros o dan y pen ar y dde; arhosodd y pedair arall yn eu lle.

25. Yna gwelais yr is-adenydd hyn yn cynllunio i'w dyrchafu eu hunain i gael teyrnasu.

26. Dyma un ohonynt yn codi, ond diflannodd ar unwaith;

27. gwnaeth yr ail yr un modd, ond diflannodd hon yn gyflymach na'r un o'i blaen.

28. Yna, wrth imi edrych, gwelais y ddwy oedd ar ôl yn cyd-gynllunio i gael teyrnasu eu hunain.

29. Ac wrth iddynt gynllunio, dyma un o'r pennau oedd yn gorffwyso—yr un yn y canol, oedd yn fwy na'r ddau arall—yn dechrau dihuno.

30. Gwelais hefyd iddo uno'r ddau ben arall ag ef ei hun,

31. a throi, ynghyd â'r pennau oedd gydag ef, a bwyta'r ddwy is-aden oedd yn cynllunio i gael teyrnasu.

32. Darostyngodd y pen hwn yr holl ddaear iddo'i hun, ac arglwyddiaethu ar ei thrigolion â gormes mawr; ac yr oedd ei arglwyddiaeth fyd-eang ef yn rymusach nag eiddo'r holl adenydd a fu o'i flaen.

33. Ar ôl hynny edrychais eto, ac yn sydyn dyma'r pen oedd yn y canol yn diflannu, yn union fel yr adenydd.

34. Ond yr oedd dau ben yn aros, a buont hwythau'n teyrnasu dros y ddaear a'i thrigolion;

35. ac wrth imi edrych, dyma'r pen ar y dde yn llyncu'r un ar y chwith.

36. Yna clywais lais yn dweud wrthyf, “Edrych o'th flaen, ac ystyria'r hyn yr wyt yn ei weld.”

37. Edrychais, a dyma rywbeth fel llew, wedi ei darfu o'r coed, yn rhuo; ac fe'i clywais yn llefaru wrth yr eryr â llais dyn, a dweud:

38. “Gwrando, rwyf am siarad â thi.

39. Y mae'r Goruchaf yn dweud wrthyt: ‘Onid ti yw'r unig un sy'n aros o'r pedwar bwystfil y perais iddynt deyrnasu ar fy myd, er mwyn dirwyn fy amserau i ben drwyddynt?’

40. Ti yw'r pedwerydd i ddod, ac yr wyt wedi trechu'r holl fwystfilod a aeth o'r blaen, gan arglwyddiaethu ar y byd â braw mawr ac ar yr holl ddaear â'r gormes llymaf. Cyhyd o amser y buost fyw yn y byd trwy dwyll!

41. Ac nid â gwirionedd y bernaist y ddaear.

42. Buost yn gorthrymu'r addfwyn ac yn cam-drin yr heddychol; caseaist y rhai a ddywedai'r gwir, a charu celwyddwyr; dinistriaist gartrefi'r ffyniannus, a bwrw i lawr furiau rhai na wnaethant unrhyw ddrwg iti.

43. Ond y mae dy draha wedi codi i fyny at y Goruchaf, a'th falchder at yr Hollalluog.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Esdras 11