Hen Destament

Testament Newydd

2 Esdras 11:13-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

13. Ac yna daeth diwedd arni hi ac ar ei theyrnasiad; a diflannodd o'r golwg, ac ni welwyd ei lle mwyach. Yna cododd y nesaf, a bu hithau'n teyrnasu am amser hir.

14. A phan oedd diwedd ei theyrnasiad yn agosáu, a hithau ar fin diflannu fel y gyntaf,

15. dyma lais yn ei chlyw yn dweud:

16. “Gwrando di, ti a fu'n rheoli'r ddaear cyhyd; y mae gennyf y neges hon i'w rhoi cyn iti ddechrau mynd o'r golwg.

17. Ni chaiff neb o'th olynwyr deyrnasu am yr un hyd o amser â thi, nac yn wir am ei hanner.”

18. Yna cododd y drydedd aden, ac arglwyddiaethu fel ei rhagflaenwyr, a diflannodd hithau.

19. Felly bu pob un o'r adenydd yn arglwyddiaethu yn ei thro, ac yna eto aethant yn llwyr o'r golwg.

20. Yna edrychais, ac ymhen amser dyma'r adenydd eraill, ar y llaw chwith hwythau'n codi i gael arglwyddiaethu; yr oedd rhai ohonynt a gafodd wneud hynny, er nad heb ddiflannu ar unwaith o'r golwg,

21. ond yr oedd eraill a gododd na chawsant deyrnasu o gwbl.

22. A phan edrychais wedyn, nid oedd y deuddeg aden, na dwy o'r adenydd bychain, i'w gweld;

23. nid oedd dim ar ôl ar gorff yr eryr ond y tri phen yn gorffwys yn llonydd, a chwech aden fechan.

24. Wrth imi edrych, dyma ddwy o'r chwech aden fach yn ymddidoli oddi wrth y lleill ac yn aros o dan y pen ar y dde; arhosodd y pedair arall yn eu lle.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Esdras 11