Hen Destament

Testament Newydd

2 Esdras 1:21-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

21. Rhennais diroedd ffrwythlon rhyngoch, gan fwrw allan y Canaaneaid, y Pheresiaid a'r Philistiaid o'ch blaen. Beth arall a allaf ei wneud er eich mwyn?” medd yr Arglwydd.

22. “Dyma eiriau'r Arglwydd Hollalluog: Pan oeddech yn yr anialwch, yn sychedu wrth yr afon chwerw ac yn fy nghablu,

23. nid anfon tân arnoch am eich cableddau a wneuthum, ond bwrw pren i'r dŵr a melysu'r afon.

24. Beth a wnaf â thi, Jacob, â thi, Jwda, na fynnaist ufuddhau i mi? Fe drof at genhedloedd eraill, a rhoddaf fy enw iddynt, er mwyn iddynt hwy gael cadw fy neddfau.

25. Gan i chwi fy ngadael i, fe'ch gadawaf finnau chwithau; pan ymbiliwch arnaf am drugaredd, ni thrugarhaf wrthych.

26. Pan alwch arnaf, ni wrandawaf arnoch; oherwydd yr ydych wedi difwyno eich dwylo â gwaed, ac yr ydych yn chwim eich troed i gyflawni llofruddiaeth.

27. Nid arnaf fi, fel petai, ond arnoch chwi eich hunain yr ydych wedi cefnu,” medd yr Arglwydd.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Esdras 1