Hen Destament

Testament Newydd

2 Esdras 1:1-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Ail lyfr y proffwyd Esra fab Saraias, fab Asarias, fab Helcias, fab Salum, fab Sadoc, fab Ahitob,

2. fab Achias, fab Phinees, fab Heli, fab Amarias, fab Asias, fab Marimoth, fab Arna, fab Osias, fab Borith, fab Abiswa, fab Phinees, fab Eleasar,

3. fab Aaron, o lwyth Lefi. Yr oedd ef mewn caethiwed yn nhiriogaeth y Mediaid, yn ystod teyrnasiad Artaxerxes brenin y Persiaid.

4. Daeth gair yr Arglwydd ataf fi fel hyn:

5. “Dos at fy mhobl a chyhoedda wrthynt eu troseddau; dywed wrth eu plant am y camweddau y maent wedi eu cyflawni yn fy erbyn i, er mwyn iddynt hwythau gyhoeddi wrth blant eu plant

6. fod pechodau eu rhieni wedi cynyddu fwyfwy ynddynt hwy, am iddynt fy anghofio i ac aberthu i dduwiau dieithr.

7. Onid myfi a'u dug hwy allan o wlad yr Aifft, o dŷ caethiwed? Eto i gyd, y maent wedi ennyn fy nicter ac wedi diystyru fy nghynghorion.

8. Ond tydi, tyn allan wallt dy ben, a hyrddia bob drwg arnynt, am iddynt anufuddhau i'm cyfraith i. Y fath bobl ddiddisgyblaeth!

9. Pa hyd y goddefaf hwy, a minnau wedi rhoi cynifer o freintiau iddynt?

10. Yr wyf wedi dymchwelyd llawer o frenhinoedd er eu mwyn; trewais i lawr Pharo a'i weision, ynghyd â'i holl fyddin.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Esdras 1