Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 6:36-42 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

36. “Os pechant yn d'erbyn—oherwydd nid oes neb nad yw'n pechu—a thithau'n digio wrthynt ac yn eu darostwng i'w gelynion a'u caethgludo i wlad bell neu agos,

37. ac yna iddynt ystyried yn y wlad lle caethgludwyd hwy, ac edifarhau a deisyf arnat yng ngwlad eu caethiwed â'r geiriau, ‘Yr ydym wedi pechu a throseddu a gwneud drygioni’,

38. ac yna dychwelyd atat â'u holl galon a'u holl enaid yng ngwlad eu caethiwed lle y cawsant eu caethgludo, a gweddïo arnat i gyfeiriad eu gwlad, a roddaist i'w hynafiaid, a'r ddinas a ddewisaist, a'r tŷ a godais i'th enw,

39. gwrando di o'r nef lle'r wyt yn preswylio ar eu gweddi a'u deisyfiad, a chynnal eu hachos a maddau i'th bobl a bechodd yn d'erbyn.

40. Felly, fy Nuw, bydded dy lygaid yn sylwi a'th glust yn gwrando ar y weddi a offrymir yn y lle hwn.

41. Cyfod, yn awr, O ARGLWYDD Dduw, a thyrd i'th orffwysfa, ti ac arch dy nerth. Bydded dy offeiriaid, O ARGLWYDD Dduw, wedi eu gwisgo ag iachawdwriaeth, a bydded i'th ffyddloniaid orfoleddu yn eu llwyddiant.

42. O ARGLWYDD Dduw, paid â throi oddi wrth wyneb dy eneiniog; cofia ffyddlondeb dy was Dafydd.”

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 6