Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 36:9-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. Deunaw mlwydd oed oedd Jehoiachin pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am dri mis a deg diwrnod yn Jerwsalem. Gwnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD.

10. Ar droad y flwyddyn, anfonodd y Brenin Nebuchadnesar i'w gyrchu i Fabilon gyda'r llestri gorau o dŷ'r ARGLWYDD, a gwnaeth ei frawd Sedeceia yn frenin ar Jwda a Jerwsalem.

11. Un ar hugain oed oedd Sedeceia pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am un mlynedd ar ddeg yn Jerwsalem.

12. Gwnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD ei Dduw. Gwrthododd ymostwng o flaen y proffwyd Jeremeia, a oedd yn llefaru dros yr ARGLWYDD.

13. Gwrthryfelodd hefyd yn erbyn y Brenin Nebuchadnesar, a oedd wedi gwneud iddo dyngu i Dduw. Ystyfnigodd a chaledodd ei galon rhag dychwelyd at yr ARGLWYDD, Duw Israel.

14. Aeth swyddogion yr offeiriaid a'r bobl yn fwy anffyddlon fyth, gan ddilyn holl ffieidd-dra'r cenhedloedd a halogi tŷ'r ARGLWYDD a gysegrodd ef yn Jerwsalem.

15. Anfonodd yr ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid, atynt yn barhaus trwy law ei negeswyr, am ei fod yn tosturio wrth ei bobl a'i drigfan.

16. Ond yr oeddent hwy yn gwatwar ei negeswyr, yn gwawdio ei eiriau ac yn dirmygu ei broffwydi, nes y daeth llid yr ARGLWYDD ar ei bobl heb arbed.

17. Anfonodd frenin y Caldeaid i fyny yn eu herbyn, a lladdodd hwnnw eu gwŷr ifainc â'r cleddyf yn eu cysegrle, heb arbed na llanc na morwyn, na'r hen na'r oedrannus; rhoddodd bob un ohonynt yn ei afael.

18. Dygodd i Fabilon holl lestri tŷ Dduw, bach a mawr, trysorau tŷ'r ARGLWYDD a thrysorau'r brenin a'i swyddogion.

19. Llosgasant dŷ Dduw a dinistrio mur Jerwsalem, a llosgi hefyd ei holl balasau â thân, a distrywio'i holl lestri godidog.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 36