Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 35:17-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

17. Yr adeg honno cadwodd yr Israeliaid oedd yn bresennol y Pasg a gŵyl y Bara Croyw am saith diwrnod.

18. Ni chadwyd Pasg fel hwn yn Israel er dyddiau Samuel y proffwyd, ac ni chadwodd yr un o frenhinoedd Israel y Pasg fel y cadwodd Joseia ef gyda'r offeiriaid, y Lefiaid, pawb oedd yn bresennol o Jwda ac Israel, a thrigolion Jerwsalem.

19. Yn y ddeunawfed flwyddyn o deyrnasiad Joseia y cadwyd y Pasg hwn.

20. Ar ôl hyn oll, pan oedd Joseia wedi paratoi'r deml, daeth Necho brenin yr Aifft i fyny i ymladd yn Carchemis ar lan afon Ewffrates, ac aeth Joseia allan i'w gyfarfod.

21. Ond anfonodd Necho negeswyr ato i ddweud, “Beth sydd a wnelwyf fi â thi, brenin Jwda? Nid yn dy erbyn di yr wyf fi wedi dod yma heddiw, ond i ymladd yn erbyn teyrnas arall. Dywedodd Duw wrthyf am frysio, a phaid ti â rhwystro'r Duw sydd gyda mi, rhag iddo dy ddifa.”

22. Ond ni throdd Joseia oddi wrtho, oherwydd yr oedd yn benderfynol o ymladd ag ef; gwrthododd wrando ar eiriau Necho, a ddaeth oddi wrth Dduw, ac aeth i ymladd yn nyffryn Megido.

23. Saethwyd y Brenin Joseia gan y saethyddion, a dywedodd wrth ei weision, “Ewch â mi ymaith, oherwydd cefais fy nghlwyfo'n ddrwg.”

24. Tynnodd ei weision ef allan o'r cerbyd, a'i roi yn ei ail gerbyd a mynd ag ef i Jerwsalem. Bu farw yno ac fe'i claddwyd ym meddrod ei hynafiaid, a galarodd holl Jwda a Jerwsalem amdano.

25. Gwnaeth Jeremeia alarnad am Joseia, a hyd heddiw y mae pob canwr a chantores yn sôn amdano yn eu galarnadau. Y mae caniadau o'r fath yn ddefod yn Israel, ac y maent wedi eu hysgrifennu yn y Galarnadau.

26. Am weddill hanes Joseia, ei ddaioni yn gwneud yn ôl yr hyn a ysgrifennwyd yng nghyfraith yr ARGLWYDD,

27. a'i weithredoedd o'r dechrau i'r diwedd, y maent wedi eu hysgrifennu yn llyfr brenhinoedd Israel a Jwda.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 35