Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 34:8-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. Yn y ddeunawfed flwyddyn o'i deyrnasiad, ar ôl puro'r wlad a'r deml, anfonodd Saffan fab Asaleia, Maaseia rheolwr y ddinas a Joa fab Joahas y cofiadur i atgyweirio tŷ'r ARGLWYDD ei Dduw.

9. Pan ddaethant at Hilceia yr archoffeiriad rhoesant iddo'r arian a ddygwyd i dŷ Dduw ac a gasglodd y Lefiaid, ceidwaid y drws, oddi wrth Manasse ac Effraim a gweddill Israel, ac o holl Jwda, Benjamin a thrigolion Jerwsalem.

10. Yna rhoddwyd ef i'r goruchwylwyr oedd yn gofalu am dŷ'r ARGLWYDD; rhoddasant hwythau ef i'r gweithwyr oedd yn gweithio yn nhŷ'r ARGLWYDD ac yn atgyweirio'i agennau.

11. Fe'i rhoesant hefyd i'r seiri a'r adeiladwyr i brynu cerrig nadd a choed ar gyfer distiau a thrawstiau i'r adeiladau yr oedd brenhinoedd Jwda wedi eu hesgeuluso.

12. Yr oedd y dynion yn gweithio'n ddiwyd dan oruchwyliaeth y Lefiaid oedd yn eu hannog, sef Jahath ac Obadeia o feibion Merari, a Sechareia a Mesulam o feibion y Cohathiaid. Ac yr oedd y Lefiaid, pob un a fedrai ganu offeryn cerdd,

13. hefyd yn gofalu am y cludwyr ac yn arolygu pob gweithiwr, beth bynnag oedd ei waith. Yr oedd rhai o'r Lefiaid hefyd yn ysgrifenyddion, swyddogion a phorthorion.

14. Wrth iddynt ddwyn allan yr arian a ddygwyd i dŷ'r ARGLWYDD, darganfu Hilceia'r offeiriad lyfr cyfraith yr ARGLWYDD, a roddwyd trwy Moses.

15. Dywedodd Hilceia wrth Saffan yr ysgrifennydd, “Cefais lyfr y gyfraith yn nhŷ'r ARGLWYDD.” A rhoddodd y llyfr i Saffan.

16. Aeth Saffan â'r llyfr at y brenin a'r un pryd rhoi adroddiad iddo a dweud, “Y mae dy weision yn gwneud y cwbl a orchmynnwyd iddynt.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 34