Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 33:1-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Deuddeng mlwydd oed oedd Manasse pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am hanner cant a phump o flynyddoedd yn Jerwsalem.

2. Gwnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn ôl ffieidd-dra'r cenhedloedd a yrrodd yr ARGLWYDD allan o flaen yr Israeliaid.

3. Ailadeiladodd yr uchelfeydd a ddinistriodd ei dad Heseceia, a chododd allorau i'r Baalim a gwneud delwau o Asera, ac ymgrymodd i holl lu'r nef a'u haddoli.

4. Adeiladodd allorau yn y deml y dywedodd yr ARGLWYDD amdani, “Yn Jerwsalem y bydd fy enw am byth.”

5. Cododd allorau i holl lu'r nef yn nau gyntedd y deml.

6. Ef oedd yr un a barodd i'w feibion fynd trwy dân yn nyffryn Ben-hinnom, arferodd hudoliaeth, swynion a chyfaredd, ac ymhél ag ysbrydion a dewiniaeth. Yr oedd yn ymroi i wneud yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, i'w ddigio.

7. Gwnaeth ddelw gerfiedig a'i gosod yn y deml y dywedodd Duw amdani wrth Ddafydd a'i fab Solomon, “Yn y tŷ hwn ac yn Jerwsalem, y lle a ddewisais allan o holl lwythau Israel, yr wyf am osod fy enw'n dragwyddol.

8. Ni throf Israel allan mwyach o'r tir a roddais i'ch hynafiaid, ond iddynt ofalu gwneud y cwbl a orchmynnais iddynt yn y gyfraith, y deddfau a'r cyfreithiau a gawsant gan Moses.”

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 33