Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 32:1-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yn fuan ar ôl yr enghreifftiau hyn o ffyddlondeb, daeth Senacherib brenin Asyria yn erbyn Jwda.

2. Gwersyllodd o gwmpas y dinasoedd caerog gan feddwl eu hennill drosodd. Pan welodd Heseceia fod Senacherib wedi cyrraedd a'i fod yn bwriadu ymosod ar Jerwsalem,

3. ymgynghorodd â'i gapteiniaid a'i wroniaid ynglŷn â chau'r ffynhonnau oedd y tu allan i'r ddinas,

4. a chafodd eu cefnogaeth. Yna daeth llawer iawn o bobl ynghyd, a chaewyd yr holl ffynhonnau a'r nant oedd yn llifo trwy ganol y wlad. “Pam,” meddent, “y dylai brenhinoedd Asyria gael digon o ddŵr pan ddônt yma?”

5. Ymroes y brenin i ailadeiladu pob rhan o'r mur oedd wedi ei ddryllio, a chodi ar y tyrau ac adeiladu mur arall ar yr ochr allan. Cryfhaodd y Milo yn Ninas Dafydd a gwneud llawer o arfau a tharianau.

6. Gosododd gapteiniaid milwrol dros y bobl, a'u casglu ato i'r sgwâr wrth borth y ddinas. Fe'u calonogodd gan ddweud,

7. “Byddwch yn gryf a dewr. Peidiwch ag ofni na digalonni o flaen brenin Asyria a'i holl fintai. Y mae gennym ni fwy nag sydd ganddo ef.

8. Gallu dynol sydd ganddo ef, ond y mae yr ARGLWYDD ein Duw gyda ni i'n cynorthwyo ac i ymladd ein brwydrau.” Ac fe ymddiriedodd y bobl yng ngeiriau Heseceia brenin Jwda.

9. Yn ddiweddarach, pan oedd Senacherib brenin Asyria a'i holl fyddin yn gwarchae ar Lachis, anfonodd ei weision i Jerwsalem gyda'r neges hon i Heseceia brenin Jwda a phawb o Jwda oedd yn Jerwsalem:

10. “Fel hyn y dywed Senacherib brenin Asyria: Ym mha beth yr ydych yn ymddiried, fel eich bod yn aros dan warchae yn Jerwsalem?

11. Onid yw Heseceia yn eich twyllo ac yn eich condemnio i farw o newyn a syched trwy ddweud, ‘Yr Arglwydd ein Duw a'n gwared ni o law brenin Asyria’?

12. Onid yr Heseceia hwn a dynnodd ymaith ei uchelfeydd a'i allorau, a dweud wrth Jwda a Jerwsalem, ‘O flaen un allor yr addolwch ac arni hi yn unig yr arogldarthwch’?

13. Oni wyddoch beth a wneuthum i a'm rhagflaenwyr i holl bobloedd y gwledydd?

14. Prun o holl dduwiau'r cenhedloedd hyn, a ddinistriwyd gan fy rhagflaenwyr, a allodd waredu ei bobl o'm gafael? Sut felly y gall eich Duw chwi eich gwaredu o'm gafael?

15. Yn awr, peidiwch â gadael i Heseceia eich twyllo a'ch hudo fel hyn. Peidiwch ag ymddiried ynddo, oherwydd ni allodd duw unrhyw genedl na theyrnas waredu ei bobl o'm gafael i nac o afael fy rhagflaenwyr. Yn sicr ni all eich Duw chwi eich gwaredu o'm gafael!”

16. Dywedodd gweision Senacherib lawer mwy yn erbyn yr ARGLWYDD Dduw a'i was Heseceia.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 32