9. Ystyriwch fel y syrthiodd ein hynafiaid trwy fin y cleddyf, ac fel yr aeth ein meibion, ein merched a'n gwragedd i gaethiwed o achos hyn.
10. Yn awr, yr wyf â'm bryd ar wneud cyfamod â'r ARGLWYDD, Duw Israel, er mwyn troi ei lid tanbaid oddi wrthym.
11. Felly, gymrodyr, peidiwch â bod yn esgeulus, oherwydd dewisodd yr ARGLWYDD chwi i sefyll ger ei fron er mwyn gweini arno ac arogldarthu iddo.”
12. Yna cododd y Lefiaid, sef Mahath fab Amasai a Joel fab Asareia o deulu'r Cohathiaid, Cis fab Abdi ac Asareia fab Jehaleleel o deulu Merari, Joa fab Simma ac Eden fab Joa o deulu'r Gersoniaid,
13. Simri a Jeiel o deulu Elisaffan, Sechareia a Mattaneia o deulu Asaff,
14. Jehiel a Simei o deulu Heman, a Semaia ac Ussiel o deulu Jeduthun.
15. Cynullasant eu cymrodyr ac ymgysegru; yna aethant i buro tŷ'r ARGLWYDD yn ôl gorchymyn y brenin trwy air yr ARGLWYDD.
16. Aeth yr offeiriaid i mewn i dŷ'r ARGLWYDD i'w buro; daethant â phopeth halogedig a oedd yn y deml allan i gwrt tŷ'r ARGLWYDD. Oddi yno aeth y Lefiaid â hwy allan i nant Cidron.
17. Dechreusant sancteiddio ar y dydd cyntaf o'r mis cyntaf, ac erbyn yr wythfed dydd o'r mis yr oeddent wedi cyrraedd cyntedd yr ARGLWYDD. Am wyth diwrnod buont yn sancteiddio tŷ'r ARGLWYDD, a gorffen ar yr unfed dydd ar bymtheg o'r mis cyntaf.
18. Yna aethant i'r palas at y Brenin Heseceia, a dweud, “Yr ydym wedi puro tŷ'r ARGLWYDD drwyddo, a hefyd allor y poethoffrwm a bwrdd y bara gosod a'u holl lestri.
19. Yr ydym hefyd wedi paratoi a chysegru'r holl lestri a daflwyd allan gan y Brenin Ahas yn ystod ei deyrnasiad, pan oedd yn anffyddlon; y maent yn awr o flaen allor yr ARGLWYDD.”
20. Yna cododd y Brenin Heseceia yn fore, a chynnull swyddogion y ddinas a mynd i fyny i dŷ'r ARGLWYDD.
21. Daethant â saith bustach, saith hwrdd, saith oen a saith bwch gafr yn aberth dros bechod ar ran y frenhiniaeth, y cysegr, a Jwda; a gorchmynnodd y brenin i'r offeiriaid, meibion Aaron, eu hoffrymu ar allor yr ARGLWYDD.
22. Felly lladdwyd y bustych, a derbyniodd yr offeiriaid eu gwaed a'i luchio yn erbyn yr allor; wedyn lladdwyd yr hyrddod a'r ŵyn, a lluchio'r gwaed yn erbyn yr allor.
23. Daethant â bychod yr aberth dros bechod o flaen y brenin a'r gynulleidfa, a gosod eu dwylo arnynt;
24. yna lladdodd yr offeiriaid hwy a chyflwyno'u gwaed yn aberth dros bechod ar yr allor, i wneud cymod dros holl Israel. Oherwydd gorchmynnodd y brenin y dylid offrymu poethoffrwm ac aberth dros bechod ar ran Israel gyfan.