1. Ugain oed oedd Ahas pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am un mlynedd ar bymtheg yn Jerwsalem. Ni wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD fel y gwnaeth ei dad Dafydd,
2. ond dilynodd esiampl brenhinoedd Israel. Gwnaeth ddelwau i'r Baalim,
3. arogldarthodd yn nyffryn Ben-hinnom, ac fe barodd i'w feibion fynd trwy dân yn ôl arfer ffiaidd y cenhedloedd a ddisodlodd yr ARGLWYDD o flaen yr Israeliaid.
4. Yr oedd yn aberthu ac yn arogldarthu yn yr uchelfeydd, ar y bryniau a than bob pren gwyrddlas.
5. Am hynny rhoddodd yr ARGLWYDD ei Dduw ef yn llaw brenin Syria; gorchfygodd yntau ef a chaethgludo llawer iawn o'i bobl a mynd â hwy i Ddamascus. Rhoddwyd ef hefyd yn llaw brenin Israel, a gorchfygwyd ef ganddo mewn lladdfa fawr.
6. Yn wir, lladdodd Pecach fab Remaleia chwe ugain mil o wŷr grymus yn Jwda mewn un diwrnod, am iddynt gefnu ar ARGLWYDD Dduw eu hynafiaid.
7. Lladdwyd Maaseia mab y brenin, Asricam llywodraethwr y palas, ac Elcana y nesaf at y brenin, gan Sichri, un o wroniaid Effraim.
8. Caethgludodd yr Israeliaid ddau gan mil o'u pobl, yn wragedd, meibion a merched, a chymryd llawer iawn o ysbail oddi arnynt a'i gludo i Samaria.