Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 25:16-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

16. Fel yr oedd yn siarad, dywedodd y brenin, “A ydym wedi dy benodi'n gynghorwr i'r brenin? Taw! Pam y perygli dy fywyd?” Tawodd y proffwyd, ond nid cyn dweud, “Gwn fod Duw wedi penderfynu dy ddinistrio am iti wneud hyn a gwrthod gwrando ar fy nghyngor.”

17. Wedi ymgynghori, anfonodd Amaseia brenin Jwda neges at Joas fab Jehoahas, fab Jehu, brenin Israel, a dweud, “Tyrd, gad inni ddod wyneb yn wyneb.”

18. Anfonodd Joas brenin Israel yn ôl at Amaseia brenin Jwda a dweud, “Gyrrodd ysgellyn oedd yn Lebanon at gedrwydden Lebanon, a dweud, ‘Rho dy ferch yn wraig i'm mab’. Ond daeth rhyw fwystfil oedd yn Lebanon heibio a mathru'r ysgellyn.

19. Y mae'n wir iti daro Edom, ond aethost yn ffroenuchel a balch. Yn awr, aros gartref; pam y codi helynt, ac yna cwympo a thynnu Jwda i lawr gyda thi?”

20. Ond ni fynnai Amaseia wrando, oherwydd gwaith Duw oedd hyn er mwyn eu rhoi yn llaw Joas am iddynt droi at dduwiau Edom.

21. Felly daeth Joas brenin Israel ac Amaseia brenin Jwda wyneb yn wyneb ger Beth-semes yn Jwda.

22. Gorchfygwyd Jwda gan Israel, a ffodd pawb adref.

23. Wedi i Joas brenin Israel ddal brenin Jwda, sef Amaseia fab Joas, fab Jehoahas, yn Beth-semes, daeth ag ef i Jerwsalem, a thorrodd i lawr fur Jerwsalem o Borth Effraim hyd Borth y Gongl, sef pedwar can cufydd.

24. Hefyd aeth â'r holl aur, arian a chelfi a gafwyd yn nhÅ· Dduw dan ofal Obed-edom, ynghyd â thrysorau'r palas a gwystlon, a dychwelodd i Samaria.

25. Bu Amaseia fab Jehoas, brenin Jwda, fyw am bymtheng mlynedd ar ôl marw Joas fab Jehoahas, brenin Israel.

26. Am weddill hanes Amaseia, o'r dechrau i'r diwedd, onid yw wedi ei ysgrifennu yn llyfr brenhinoedd Jwda ac Israel?

27. O'r amser y gwrthododd Amaseia ddilyn yr ARGLWYDD, cynllwyniwyd brad yn ei erbyn yn Jerwsalem. Ffodd yntau i Lachis, ond anfonwyd ar ei ôl i Lachis a'i ladd yno.

28. Yna cludwyd ef ar feirch, a'i gladdu gyda'i dadau yn Ninas Dafydd.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 25