5. traean arall i aros yn nhŷ'r brenin, a thraean i fod wrth Borth y Sylfaen. Bydded i'r holl bobl aros yng nghynteddau tŷ'r ARGLWYDD.
6. Nid oes neb i fynd i mewn i dŷ'r ARGLWYDD ond yr offeiriaid a'r Lefiaid sydd ar ddyletswydd; cânt hwy fynd am eu bod yn sanctaidd; rhaid i bawb arall gadw gorchymyn yr ARGLWYDD.
7. Y mae'r Lefiaid i sefyll o amgylch y brenin, pob un â'i arfau yn ei law, a lladder pwy bynnag a ddaw i mewn i'r tŷ; byddant gyda'r brenin lle bynnag yr â.”
8. Gwnaeth y Lefiaid a holl Jwda bopeth a orchmynnodd yr offeiriad Jehoiada, pob un yn cymryd ei gwmni, y rhai oedd ar ddyletswydd ar y Saboth, a'r rhai oedd yn rhydd, oherwydd nid oedd yr offeiriad Jehoiada wedi rhyddhau yr un o'r adrannau.
9. Yna rhoddodd yr offeiriad Jehoiada i'r capteiniaid y gwaywffyn, y tarianau a'r bwcledi a fu gan Ddafydd ac a oedd yn nhŷ Dduw.
10. Gwnaeth i'r holl bobl sefyll i amgylchu'r brenin, pob un â'i arf yn ei law, ar draws y tŷ o'r ochr dde i'r ochr chwith, o gwmpas yr allor a'r tŷ.
11. Yna dygwyd mab y brenin gerbron, a rhoi'r goron a'r warant iddo. Urddodd Jehoiada a'i feibion ef, a'i eneinio, a dweud, “Byw fyddo'r brenin!”
12. Clywodd Athaleia drwst y bobl yn rhedeg ac yn clodfori'r brenin, a daeth atynt i dŷ'r ARGLWYDD.
13. Pan welodd hi y brenin yn sefyll wrth ei golofn yn y fynedfa, gyda'r capteiniaid a'r trwmpedau o amgylch y brenin, a holl bobl y wlad yn llawenhau ac yn canu trwmpedau, a'r cantorion gydag offerynnau yn arwain y moliant, rhwygodd ei dillad a gweiddi, “Brad! brad!”
14. Gorchmynnodd yr offeiriad Jehoiada i'r capteiniaid, swyddogion y fyddin, “Ewch â hi y tu allan i gyffiniau'r tŷ, a lladder â'r cleddyf unrhyw un sy'n ei dilyn; ond peidier,” meddai'r offeiriad, “â'i lladd yn nhŷ'r ARGLWYDD.”
15. Felly daliasant hi fel yr oedd yn cyrraedd mynedfa Porth y Meirch i'r palas, a'i lladd yno.