1. Bu farw Jehosaffat, a chladdwyd ef gyda'i ragflaenwyr yn ninas ei dad Dafydd, a daeth ei fab Jehoram yn frenin yn ei le.
2. Yr oedd gan Jehoram frodyr, meibion i Jehosaffat, sef Asareia, Jehiel, Sechareia, Asareia, Michael a Seffateia. Meibion i Jehosaffat brenin Jwda oeddent i gyd,
3. a rhoddodd eu tad iddynt lawer o anrhegion, arian ac aur a phethau gwerthfawr, yn ogystal â dinasoedd caerog yn Jwda; ond i Jehoram y rhoddodd y frenhiniaeth, am mai ef oedd y cyntafanedig.
4. Ar ôl i Jehoram ymsefydlu ar deyrnas ei dad, lladdodd bob un o'i frodyr a rhai o dywysogion Israel â'r cleddyf.
5. Deuddeg ar hugain oed oedd Jehoram pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am wyth mlynedd yn Jerwsalem.
6. Dilynodd lwybr brenhinoedd Israel, fel y gwnâi tŷ Ahab, gan mai merch Ahab oedd ei wraig, a gwnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD.
7. Eto, oherwydd y cyfamod a wnaeth â Dafydd, ni fynnai'r ARGLWYDD ddifetha tŷ Dafydd, am iddo addo rhoi lamp iddo ef a'i feibion am byth.
8. Yn ei gyfnod ef gwrthryfelodd Edom yn erbyn Jwda a gosod brenin arnynt eu hunain.
9. Croesodd Jehoram yno gyda'i gapteiniaid a'i holl gerbydau; cododd liw nos ac ymosod gyda'i gerbydwyr ar yr Edomiaid oedd yn ei amgylchu.
10. Ac y mae Edom mewn gwrthryfel yn erbyn Jwda hyd y dydd hwn. Yr un pryd gwrthryfelodd Libna yn ei erbyn, am iddo droi cefn ar yr ARGLWYDD, Duw ei hynafiaid.
11. Ef hefyd a adeiladodd uchelfeydd ym mynydd-dir Jwda, a gwneud i drigolion Jerwsalem buteinio, ac arwain Jwda ar gyfeiliorn.
12. Daeth llythyr at Jehoram oddi wrth y proffwyd Elias yn dweud, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Dafydd dy dad: ‘Ni ddilynaist ti lwybrau Jehosaffat dy dad ac Asa brenin Jwda,
13. ond dilynaist frenhinoedd Israel, a gwneud i Jwda a thrigolion Jerwsalem buteinio, fel y gwnaeth tŷ Ahab gydag Israel; yr wyt hefyd wedi lladd dy frodyr o dŷ dy dad, dynion gwell na thi.
14. Am hyn, fe ddaw'r ARGLWYDD â phla mawr ar dy bobl, dy feibion, dy wragedd a'th holl olud.